Croeso i Adran Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Mae’r Bwrdd Iechyd Prifysgol wedi ymrwymo i ddatblygu, hyrwyddo, cefnogi a hwyluso diwylliant ymchwil a datblygu gweithredol ac arloesol, i gyflawni amcanion strategol y sefydliad gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau ymchwil lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae'r sefydliad wedi ymrwymo i ac yn annog ymchwil o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n wynebu cleifion, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau a gwelliannau yn y modd y darperir gwasanaethau a chanlyniadau clinigol er budd y cleifion. Nod y Bwrdd Iechyd Prifysgol yw adeiladu ar bartneriaethau ymchwil cryf gyda’r byd academaidd a diwydiant, a pharhau i’w datblygu, er mwyn cryfhau’r astudiaethau ansawdd a darparu mynediad a chyfleoedd i waith ymchwil ar gyfer cleifion BIP Cwm Taf Morgannwg.