Mae gan yr Uned Diagnostig Cardio-Pwlmonaidd dîm ymroddedig o arbenigwyr medrus iawn mewn diagnosteg gardiaidd, diagnosted anadlol a diagnosteg cwsg, sy'n cynnig ystod o brofion ac ymchwiliadau diagnostig arbenigol ar gyfer y galon a'r ysgyfaint.
Mae'r tîm o arbenigwyr yn cynnwys Pennaeth Adran; Gwyddonydd Clinigol; Ffisiolegydd Cardiaidd neu Anadlol / Cwsg Uwch neu Dra-Arbenigol; Uwch-swyddogion Technegol; Swyddogion Technegol Cynorthwyol; Gwyddonydd Clinigol dan hyfforddiant; Ffisiolegydd dan hyfforddiant a thîm gweinyddol cefnogol.
Rydym yn darparu gwasanaethau yn:
Nid yw ein holl wasanaethau ar gael ym mhob safle ysbyty.
Y profion a'r ymchwiliadau a gynigiwn yn yr Uned Diagnostig Cardio-Pwlmonaidd yw:
Ymchwiliadau cardiaidd
Ymchwiliadau Anadlol
Ymchwiliadau a Gwasanaethau Cwsg
Mae ymgynghorydd ysbyty yn gofyn am bob ymchwiliad trwy wneud atgyfeiriadau. Efallai eich bod wedi gweld y meddyg o'r blaen mewn clinig cleifion allanol, neu mae apwyntiad claf allanol wedi ei drefnu ac felly mae angen rhai profion cyn i chi weld y meddyg.
Oriau Agor
Dydd Llun - Dydd Iau 8am - 6pm, Dydd Gwener - 8am - 5.30pm
Gan ein bod yn darparu amrywiaeth eang o ymchwiliadau yn yr adran, mae pob triniaeth yn gofyn am ei chyfarwyddiadau a'u gofynion cyn-brawf eu hunain, a bydd gan bob ymchwiliad amser apwyntiad gwahanol. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am eich prawf (profion) penodol, cliciwch ar y prawf perthnasol ar y dudalen hon a byddwch yn dod o hyd i'r wybodaeth amdano.
Ar gyfer pob apwyntiad ac ymholiad, cysylltwch â'r derbynfeydd perthnasol:
Ysbyty'r Tywysog Charles - 01685 728403
Ysbyty Brenhinol Morgannwg - 01443 443226