Neidio i'r prif gynnwy

Radioleg

Mae'r adran Radioleg yn darparu ystod eang o ddelweddu diagnostig ar draws safleoedd y Bwrdd Iechyd.

  • Ysbyty’r Tywysog Siarl
  • Ysbyty Tywysoges Cymru             
  • Ysbyty Brenhinol Morgannwg
  • Ysbyty Cwm Cynon
  • Ysbyty Cwm Rhondda
  • Ysbyty Maesteg
  • Canolfan Bronnau’r Lili Wen Fach
  • Parc Iechyd Llantrisant... Yn fuan

Gwybodaeth Cyffredinol X-ray

Oriau Agored pelydr-X

Ysbyty Tywysoges Cymru
08:00yb - 16:00yp o Ddydd Llun i Ddydd Gwener

Maesteg
09:00yb - 12:30yp o Ddydd Llun i Ddydd Iau

Ysbyty'r Tywysog Siarl (Apwyntiad yn Unig)
08:30yb - 16:30yp

Ysbyty Cwm Cynon (Apwyntiad yn Unig)
09:00yb - 16:30yp

Ysbyty Brenhinol Morganwg
09:00yb - 16:00yp

Ysbyty Cwm Rhondda
09:00yb - 16:00yp

Ac eithrio Gwyliau Banc (Pob Safle)

Beth yw pelydr-X?

Mae pelydrau-X yn fath o ymbelydredd. Maent yn ffynonellau ynni tebyg i olau. Fodd bynnag, mae gan olau amledd llawer is na phelydrau-X ac mae'n cael ei amsugno gan eich croen. Mae gan belydrau-X amledd uwch ac maent yn mynd trwy'r corff dynol.

Wrth i belydrau-X basio trwy'ch corff, mae gronynnau ynni o'r enw ffotonau yn cael eu hamsugno ar wahanol gyfraddau. Mae'r patrwm hwn yn ymddangos ar y delweddau pelydr-X.

Mae rhannau o'ch corff sy'n cynnwys deunydd dwys, fel asgwrn, yn ymddangos fel ardaloedd gwyn clir ar ddelwedd pelydr-X. Mae'r rhannau meddalach, fel eich calon a'ch ysgyfaint, yn ymddangos fel ardaloedd tywyllach.

Oes unrhyw risgiau?

Mae pelydrau-X diagnostig yn defnyddio ychydig bach iawn o ymbelydredd. Rydym i gyd yn derbyn ymbelydredd o'r amgylchedd naturiol o'n cwmpas, gelwir hyn yn 'ymbelydredd cefndir'. Mae'r rhan fwyaf o belydrau-X yn defnyddio faint o ymbelydredd sy'n cyfateb i ychydig wythnosau neu ddyddiau o'r ymbelydredd cefndirol hwn.

Os ydych chi'n feichiog, rhaid i chi hysbysu'r Radiograffydd cyn y pelydr-X. Gall ymbelydredd fod yn niweidiol i'r ffetws sy'n datblygu (babi yn y groth), ac efallai y bydd angen rhagofalon arbennig.

Mae angen cludiant ysbyty arnaf, sut ydw i'n archebu?

Os ydych chi'n gymwys i gael cludiant i'r ysbyty, rhaid trefnu hyn gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar 0300 1000 012. Rhaid gwneud archebion o leiaf 48 awr cyn eich apwyntiad.

Sgan CT

Mae sgan CT (tomograffeg gyfrifiadurol) yn defnyddio cyfres o belydrau-X a chyfrifiadur i greu delweddau manwl o'ch esgyrn a'ch meinweoedd meddal.

Rhifau Ffôn
Byddwch yn derbyn llythyr apwyntiad drwy'r post. Bydd hyn yn manylu ar unrhyw gyfyngiadau neu gyfarwyddiadau penodol.

Gall eich archwiliad gael ei gynnal yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, Ysbyty Tywysoges Cymru neu Ysbyty Brenhinol Morgannwg, felly gwiriwch eich llythyr apwyntiad i sicrhau eich bod yn mynychu’r adran gywir.  Gellir cynnig apwyntiadau ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul. Os na allwch fynychu eich apwyntiad am unrhyw reswm, rhowch wybod i'r adran ar unwaith. Bydd hyn yn ein galluogi i aildrefnu eich apwyntiad i amser mwy addas.

Sgan MRI

Mae sganiwr MRI yn defnyddio maes magnetig cryf iawn a thonnau radio i gynhyrchu delweddau o'r corff. Gellir defnyddio'r delweddau hyn i wneud diagnosis o nifer fawr o batholegau a'u defnyddio i gynllunio triniaethau. Nid yw MRI yn defnyddio ymbelydredd ïoneiddio fel pelydrau-x, ac nid oes unrhyw risgiau iechyd hirdymor hysbys.

Byddwch yn derbyn llythyr apwyntiad drwy'r post. Bydd hyn yn manylu ar unrhyw gyfyngiadau neu gyfarwyddiadau penodol.

Gall eich archwiliad gael ei gynnal yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, Ysbyty Tywysoges Cymru neu Ysbyty Brenhinol Morgannwg, felly gwiriwch eich llythyr apwyntiad i sicrhau eich bod yn mynychu’r adran gywir. Os na allwch fynychu eich apwyntiad am unrhyw reswm, rhowch wybod i'r adran ar unwaith. Bydd hyn yn ein galluogi i aildrefnu eich apwyntiad i amser mwy addas.

Byddwch yn derbyn ffurflen ganiatâd a fydd yn gofyn cyfres o gwestiynau diogelwch, os byddwch yn ateb ie i unrhyw un o'r cwestiynau mewn print trwm, cysylltwch â'r adran berthnasol.

Meddygaeth Niwclear

Meddygaeth Niwclear yw arbenigedd meddygol sy'n cynnwys rhoi fferyllol ymbelydrol ar gyfer diagnosio prosesau clefydau.

Dyma’r ffordd orau am ddarparu gwybodaeth am swyddogaeth system yn hytrach na delweddau anatomegol darluniadol.

Gellir dosbarthu deunydd fferyllol ymbelydrol (isotopau ymbelydrol sydd wedi'u rhwymo i wahanol deunydd fferyllol) mewn amrywiaeth o ffyrdd trwy eu chwistrellu, eu hanadlu i mewn neu eu llyncu.

Yr isotop mwyaf cyffredin ar gyfer delweddu Meddygaeth Niwclear yw Technetiwm 99m sydd â hanner oes o 6 awr (mae hyn yn cyfeirio at y dirywiad yn y gweithgaredd, sy'n golygu bod hanner cymaint ag yr oedd gennym i ddechrau ar gael pob 6 awr) ond rydym yn defnyddio isotopau sydd â hanner oes ychydig yn hirach.

Mae'r sganiau rydyn ni'n eu perfformio yn amrywiol iawn a gallant gymryd o ychydig funudau i oriau.

Byddwch yn derbyn llythyr apwyntiad drwy'r post. Bydd hyn yn manylu ar unrhyw gyfyngiadau neu gyfarwyddiadau penodol.

Efallai y bydd eich archwiliad yn cael ei gynnal yn Ysbyty Tywysoges Cymru neu Ysbyty Brenhinol Morgannwg, felly gwiriwch eich llythyr apwyntiad i sicrhau eich bod yn mynychu'r adran gywir. Os na allwch fynychu eich apwyntiad am unrhyw reswm, rhowch wybod i'r adran ar unwaith. Bydd hyn yn ein galluogi i aildrefnu eich apwyntiad i amser mwy addas.

Fflworosgopeg

Mae fflworosgopeg yn arbenigedd sy’n cynnig amrywiaeth eang o weithdrefnau llai ymyrrol dan arweiniad delweddau, yn amrywio o atgyweirio aneurismau cymhleth iawn i chwistrelliadau i gymalau bach.

Byddwch yn derbyn llythyr apwyntiad drwy'r post. Bydd hyn yn manylu ar unrhyw gyfyngiadau neu gyfarwyddiadau penodol.

Gall eich archwiliad gael ei gynnal yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, Ysbyty Tywysoges Cymru neu Ysbyty Brenhinol Morgannwg, felly gwiriwch eich llythyr apwyntiad i sicrhau eich bod yn mynychu’r adran gywir. Os na allwch fynychu eich apwyntiad am unrhyw reswm, rhowch wybod i'r adran ar unwaith. Bydd hyn yn ein galluogi i aildrefnu eich apwyntiad i amser mwy addas.

Uwchsain

Mae uwchsain (a elwir hefyd yn sonograffeg neu uwchsonograffeg) yn brawf delweddudi-ymyrrol. Gelwir llun uwchsain yn sonogram. Mae uwchsain yn defnyddio tonnau sain amledd uchel i greu lluniau neu fideo amser real o organau mewnol neu feinweoedd meddal eraill, fel pibellau gwaed.

Byddwch yn derbyn llythyr apwyntiad drwy'r post. Bydd hyn yn manylu ar unrhyw gyfyngiadau neu gyfarwyddiadau penodol.

Efallai y bydd eich archwiliad yn cael ei gynnal yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, Ysbyty Tywysoges Cymru, Ysbyty Brenhinol Morgannwg neu Ysbyty Cwm Rhondda felly gwiriwch eich llythyr apwyntiad i sicrhau eich bod yn mynychu'r adran gywir. Os na allwch fynychu eich apwyntiad am unrhyw reswm, rhowch wybod i'r adran ar unwaith. Bydd hyn yn ein galluogi i aildrefnu eich apwyntiad i amser mwy addas.

Mamograffeg

Pelydr-X dos isel o'r fron yw mamogram. Fe'i gwneir gan radiograffydd. Gellir defnyddio'r prawf hwn i helpu i wneud diagnosis oganser y fronacarsinoma a dwythellog in-situ (DCIS). Fe'i defnyddir hefyd fel rhan o ddilyniant i wirio'r bronnau.

Byddwch yn derbyn llythyr apwyntiad drwy'r post. Bydd hyn yn manylu ar unrhyw gyfyngiadau neu gyfarwyddiadau penodol.

Bydd eich archwiliad yn digwydd yng nghanolfan Bronnau’r Lili Wen Fach.

Os na allwch fynychu eich apwyntiad am unrhyw reswm, rhowch wybod i'r adran ar unwaith. Bydd hyn yn ein galluogi i aildrefnu eich apwyntiad i amser mwy addas.

Amddiffyn rhag ymbelydredd

Ydych chi'n atgyfeirio cleifion ar gyfer delweddu yn BIP CTM?

Gweler weithdrefnau ein cyflogwyr, sydd wedi’u sefydlu o dan IR(ME)R 2017.

Dilynwch ni: