Newidiadau Gwasanaeth ar gyfer COVID-19
Mae'r Gwasanaeth Nyrsio Ardal yn parhau i ddarparu gwasanaethau craidd i gleifion yn eu cartrefi eu hunain ac i'r rhai mewn gofal preswyl. Mae cleifion yn dal i allu derbyn gofal wyneb yn wyneb, ond lle bo hynny’n briodol, mae ymgynghoriadau dros y ffôn a rhoi cyngor am hunan-ofal i gleifion a’u teuluoedd gan nyrs gofrestredig wedi disodli dulliau eraill o ofal. Mae'r Gwasanaeth Nyrsio Ardal bellach yn defnyddio cyfleusterau cynadledda fideo i gyfathrebu'n effeithiol â chleifion a chydweithwyr. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn i'n cleifion ac mae wedi cael croeso gan ddefnyddwyr.
Mae pob atgyfeiriad sy'n dod i mewn yn cael ei wirio ar gyfer risgiau posibl sy'n gysylltiedig â COVID-19 ac mae cleifion yn cael eu sgrinio cyn ymweld am unrhyw symptomau COVID-19 sydd newydd eu datblygu.
Os oes unrhyw ymholiadau brys gyda chi yn ymwneud â darparu’r Gwasanaeth Nyrsio Ardal, ffoniwch: 01443 444069 (Rhondda Cynon Taff a Merthyr) neu 01656 753922 (Pen-y-bont ar Ogwr).
Mae ein Gwasanaeth Nyrsio Ardal yn darparu gofal uniongyrchol yng nghartref y claf.
Mae nyrsys ardal yn helpu i drin cyflwr claf yn effeithiol gartref, gan gynnig triniaeth, cyngor a chefnogaeth mewn ymgais i osgoi'r angen i dderbyn y claf i'r ysbyty yn ddiangen ac i osgoi ymweliadau â'r adran damweiniau ac achosion brys.
Maen nhw hefyd yn gweithio'n agos gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill fel meddygon teulu, gofal cymdeithasol a grwpiau gwirfoddol i ddarparu gofal a chefnogaeth i gleifion.
Mae ein Gwasanaeth Nyrsio Ardal ar gyfer pobl sydd ddim yn gallu mynd i adeilad gofal iechyd i dderbyn triniaeth (cleifion sy'n gaeth i'r cartref).
Mae'r gwasanaeth yn darparu gofal i drigolion Rhondda, Cynon, Taf a Merthyr Tudful sy'n 18 oed neu'n hŷn.
Mae ein Gwasanaeth Nyrsio Ardal hefyd yn cefnogi cleifion pan fyddan nhw'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty i'w galluogi i ddychwelyd adref yn gyflym ac yn ddiogel.
Defnyddir y gwasanaeth hwn trwy atgyfeiriad ac mae pob atgyfeiriad yn cael ei asesu i sicrhau ei fod yn un addas.
Oriau Agor
24 awr y dydd
Mae nyrsys ardal yn darparu:
Cysylltwch â Ni
Ffôn: 01443 444069