Mae meddygon acíwt yn arbenigo mewn edrych ar ôl oedolion sydd wedi cael eu hatgyfeirio i’r ysbyty gyda salwch meddygol acíwt.
Mae’r Adran Meddygaeth Acíwt yn gyfrifol am driniaeth ac asesiadau cychwynnol y rhan fwyaf o’r cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio o bractis cyffredinol neu adran frys gyda phroblemau brys heb fod angen llawdriniaeth.
Os bydd angen i gleifion aros yn yr ysbyty, byddan nhw’n mynd i’r Uned Feddygol Acíwt (Ysbyty Brenhinol Morgannwg) neu i’r Uned Penderfyniadau Clinigol (Ysbyty’r Tywysog Siarl).
Os na fydd angen i gleifion fynd i’r ysbyty, mae’n bosib trefnu apwyntiad brys yn yr Uned Gofal Brys Ar Yr Un Diwrnod (Ysbyty Brenhinol Morgannwg) neu yn yr Uned Ddydd Feddygol (Ysbyty’r Tywysog Siarl).
Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer cleifion y mae angen apwyntiad brys arnyn nhw ar gyfer salwch meddygol acíwt.
Rydyn ni’n trin cleifion gydag amrywiaeth eang o broblemau, er enghraifft poen newydd yn y frest neu ddiffyg anadl, niwmonia a heintiau eraill, achosion o golli ymwybyddiaeth, pen tost difrifol ac achosion posib o thrombosis gwythiennau dwfn.
Bydd angen i feddyg teulu neu’r adran frys atgyfeirio cleifion.
Amseroedd agor
24 awr
Gan fod hwn yn wasanaeth brys, bydd cleifion yn cael eu hasesu yn nhrefn angen clinigol.
Bydd meddyg iau neu ymarferydd nyrsio yn gweld y rhan fwyaf o gleifion yn gyntaf. Byddan nhw’n gwneud cofnod o’u hanes meddygol, yn cynnal archwiliad clinigol, yn cynnal unrhyw brofion cychwynnol ac yn presgripsiynu unrhyw driniaeth frys sydd ei hangen.
Yna, bydd ymgynghorydd yn adolygu’r sefyllfa ac yn trafod y diagnosis, cynllun triniaeth ac unrhyw apwyntiadau dilynol sydd eu hangen.
Pan fyddwch chi’n cael eich rhyddhau, bydd y meddyg teulu yn cael yr holl wybodaeth berthnasol.
Yr Adran Meddygaeth Acíwt Ysbyty Brenhinol Morgannwg Ynysmaerdy Llantrisant CF72 8XR |
Yr Adran Meddygaeth Acíwt Ysbyty'r Tywysog Siarl Y Gurnos Merthyr Tudful CF47 9DT |
Anfonwch neges ar Twitter
@CTMAcuteMed