Neidio i'r prif gynnwy

Yr Ysgogydd

Michelle Allen— Bydwraig - Ysbyty Tywysoges Cymru

O’r eiliad y cwrddon ni â hi gyntaf, gwnaeth Michelle i mi a fy nheulu deimlo’n gartrefol ar unwaith. Fe wnaeth hi feithrin perthynas anhygoel gyda ni ac roedden ni i gyd yn gwneud i’n gilydd chwerthin yn ystod yr enedigaeth. Gwnaeth Michelle yn siŵr ein bod wedi gwneud popeth yr oeddwn i eisiau a wnaeth hi erioed geisio newid fy mhenderfyniad. Gwrandawodd arna i. Michelle wnaeth fy ysbrydoli a dyna pam rydw i nawr yn dechrau ar fy astudiaethau fel myfyrwraig bydwreigiaeth! Wnaiff Michelle fyth wybod maint y cryfder a'r dewrder a roddodd i mi.

Dilynwch ni: