Neidio i'r prif gynnwy

Gofal sy'n Canolbwyntio ar y Teulu

Janine Thomas

Janine Thomas​ - Bydwraig Gymunedol - Cymuned - Gogledd

Helpodd Janine fi drwy fy meichiogrwydd gyda fy mabi enfys. Roeddwn i’n bryderus iawn drwy’r cyfnod ac yn poeni am unrhyw beth bach ond byddai Janine wastad yna ar ben arall y ffôn yn barod i'm tawelu. Allwn i ddim gofyn am fydwraig gymunedol well. Gan fod fy BMI yn 35.5 roeddwn i yn y categori risg uwch ac roedd angen sganiau ychwanegol ac ati ond wnaeth Janine ddim gwneud i mi boeni o gwbl am hyn. Roedd hi'n teimlo fel teulu ac alla i ddim aros i Janine fod yn fydwraig i mi eto (mewn cwpl o flynyddoedd).

Dilynwch ni: