Neidio i'r prif gynnwy

Myfyriwr Bydwraig - Myfyriwr Nyrsio

Female Profile

Danielle Upham - Myfyriwr Bydwreigiaeth - Prifysgol De Cymru

Daeth Danielle atom fel myfyriwr bydwreigiaeth. O'r eiliad y gwnaethom ei chyfarfod roedd hi'n gyfeillgar, yn addfwyn, yn gymwynasgar ac yn ddibynadwy. Doedd dim cwestiwn yn rhy wirion ac roedd hi bob amser yn ein sicrhau ei bod wedi trafod gyda bydwraig gymwys er mwyn i ni allu ymddiried yn ei chyngor. Roedd hi wastad ben arall i neges destun ac yn helpu i dawelu fy mhryderon drwy gydol y beichiogrwydd. Aeth Danielle allan o'i ffordd i gadw apwyntiadau - hyd yn oed yn dod ar ei dyddiau i ffwrdd! Roedden ni'n teimlo ei bod hi’n teimlo’n rhan o’n taith ni a daeth hi'n rhan naturiol ohoni.

Trwy gydol y cyfnod, roedd Danielle yn broffesiynol ond yn empathetig ac roedden i gyd yn siomedig na allai fod yno ar gyfer yr enedigaeth ei hun ond cadwodd mewn cysylltiad drwy’r adeg. Daeth i ymweld â ni ar ôl yr enedigaeth ac  roedden ni'n gwerthfawrogi hynny’n fawr. Mae hi wedi cadw mewn cysylltiad ers hynny, heb fod yn ormodol, ac rydyn ni’n gwbl gadarnhaol y bydd hi'n mynd ymlaen i fod yn fydwraig wych.

Dilynwch ni: