Neidio i'r prif gynnwy

Fy ngrymuso - Eiriol drosof fi

Male Profile

Caleb Igbenehi - Ymgynghorydd - Ysbyty Tywysoges Cymru

Roeddwn i dan ofal Caleb am fy 3ydd beichiogrwydd (cafodd fy nau fabi cyntaf eu geni  mewn ysbyty gwahanol yn Lloegr) ac roeddwn yn ysu i geisio VBA2C. Ar ôl profiad hynod negyddol gydag ymgynghorydd yn ystod fy ail feichiogrwydd roeddwn yn bwriadu gwrthod gofal dan arweiniad ymgynghorydd am fy nhrydydd, fodd bynnag, cefais sicrwydd gan y fydwraig fod Caleb yn hyfryd ac yn hynod gefnogol.

Yn fy apwyntiad cyntaf gwelais y cofrestrydd a rhoi gwybod iddo na fyddwn yn trefnu toriad Cesaraidd a fy mod am geisio VBA2C. Aeth y cofrestrydd i nol Caleb i drafod pethau gyda mi ymhellach. Cymerodd Caleb yr amser i ddeall pam roeddwn i'n teimlo nad oedd fy ngenedigaethau diwethaf wedi symud yn eu blaen a pham roeddwn i mor awyddus i geisio VBA2C a gyda'n gilydd fe wnaethon ni gynllun yr oeddwn i'n gyfforddus ag ef. Roeddwn i'n gwerthfawrogi'n arbennig y derminoleg benodol a ddefnyddiwyd, yn enwedig o ran gwrthod defnyddio'r term "methu â symud ymlaen" oherwydd yr arwyddocâd negyddol sy'n gysylltiedig â 'methiant'.

Drwy gydol pob apwyntiad doeddwn i byth yn teimlo fy mod i’n cael fy rhuthro neu’n cael fy mychanu - roeddwn i'n teimlo fy mod i’n cael y wybodaeth ddiweddaraf, yn cael fy mharchu ac yn rhan o bob penderfyniad a wnaed. Wrth drefnu apwyntiad i brysuro’r geni, dywedodd wrth y tîm, er nad dyma'r llwybr a argymhellir ar gyfer rhywun oedd wedi cael 2 doriad Cesaraidd, fy mod wedi cael yr holl wybodaeth angenrheidiol ac wedi gwneud ymchwil helaeth.

Drwy gydol y broses o brysuro’r geni, roedd Caleb yn bositif ac yn llawn hwyl. Cefais wybod gan y bydwragedd ei fod yn ffonio'r ward yn rheolaidd i weld sut oedd pethau’n datblygu. Yn anffodus, er gwaethaf yr ymdrechion gorau, roedd yn rhaid i mi gael 3ydd toriad Cesaraidd. Er hynny, oherwydd y gefnogaeth a roddodd Caleb drwy gydol fy ngofal cyn-geni, rwy'n llawer tawelach fy meddwl ynghylch sut aeth fy mhrofiad geni - yn syml, nid oedd unrhyw beth arall y gallwn fod wedi ei wneud i geisio cael  genedigaeth naturiol. Fe wnaeth fy marn am ofal dan arweiniad ymgynghorwyr newid yn llwyr oherwydd Caleb, a hoffwn pe byddai pob ymgynghorydd yn y maes yn dilyn ei arweiniad.

Dilynwch ni: