Neidio i'r prif gynnwy

Gofal tosturiol a pharchus

Male Profile

Gary Bray - OPD - Ysbyty Tywysoges Cymru

Roedd Gary yn rhan o'r tîm anaesthetegyddion ar gyfer fy nhoriad Cesaraidd yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac roedd yn hollol hyfryd. Gwnaeth bopeth o fewn ei allu i sicrhau fy mod i a fy mhartner yn dawel ein meddwl ac yn derbyn cefnogaeth. Daliodd fy llaw pan oeddwn i wedi dychryn a siarad gyda fy mhartner drwy gydol y broses gan wneud iddo deimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi ac yn rhan o'r profiad. Roeddwn i'n teimlo mewn dwylo diogel iawn gyda Gary yn yr ystafell.

Dilynwch ni: