Cliciwch ar y ddolen isod i drefnu eich cyswllt cyntaf gyda'ch bydwraig
Cofrestru eich beichiogrwydd gyda Mamolaeth BIP Cwm Taf Morgannwg
Croeso
Mae ein tîm hynod fedrus o fydwragedd, obstetryddion a neonatolegwyr wrth law i roi cymorth ac arweiniad i chi. Byddwn ni yma i chi o'r adeg pan fyddwch chi'n cael gwybod eich bod chi'n feichiog, hyd at y foment byddwch chi'n dal eich babi am y tro cyntaf, yn ogystal â’r dyddiau ac wythnosau cyntaf o fod yn rhiant. Yn anad dim, ein nod yw cynnig gwasanaeth sensitif a hyblyg er mwyn diwallu anghenion penodol pob menyw a'i theulu. Rydyn ni’n annog pob un o'n teuluoedd i fod yn bartneriaid gweithredol wrth gynllunio eu gofal eu hunain.
Ein Staff
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn darparu gofal mamolaeth i fenywod ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Mae tri ysbyty gyda ni sy'n gallu cynnig gofal mamolaeth.
Yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae clinig cyn-geni ac uned asesu ddydd, uned obstetreg, ystafelloedd geni dan arweiniad bydwragedd, pwll geni a gwasanaethau newyddenedigol.
Yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, mae cyfle i fenywod a phobl sy’n rhoi genedigaeth fynd i Ganolfan Geni Tirion, ein huned annibynnol dan arweiniad bydwragedd. Lle cartrefol yw hwn sy’n cael ei ddefnyddio gan fenywod os ydy eu beichiogrwydd yn isel ei risg. Mae Canolfan Tirion hefyd yn cynnig cymorth ar ôl geni i'r rheiny allai fod angen rhagor o gymorth i fwydo ar y fron.
Ym Merthyr Tudful, mae gan Ysbyty'r Tywysog Siarl glinig cyn-geni, uned asesu ddydd, gwasanaeth asesu a brysbennu, pyllau geni, uned obstetreg ac uned ochr yn ochr dan arweiniad bydwragedd. Mae gwasanaethau newyddenedigol hefyd ar gael yma.
Rhifau Ffôn Pwysig
Ysbyty Tywysoges Cymru Y Ward Geni |
Ysbyty'r Tywysog Siarl Y Ward Geni |
Canolfan Geni Tirion 01443 443524 |
Ysbyty Cwm Cynon Y Clinig Cyn-geni |
Ysbyty Cwm Rhondda Y Clinig Cyn-geni |
Bydwragedd Cymunedol - Ysbyty Cwm Cynon 01443 715030 |