Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol Integredig yn CTM

Beth rydym yn ei gynnig yng Nghlinigau Iechyd Rhywiol Integredig Cwm Taf Morgannwg - Am Ddim ac yn Gyfrinachol:

  • Cyngor iechyd rhywiol, profion am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs) a thriniaeth
  • Pob dull atal cenhedlu gan gynnwys atal cenhedlu trwy’r geg (Pils) Pigiadau atal cenhedlu, mewnblaniadau atal cenhedlu, dyfeisiau atal cenhedlu mewngroth (coil)
  •  Atal cenhedlu trwy'r geg brys (Pilsen) a Choiliau Brys. 
  • Prawf beichiogrwydd
  • Sgrinio Serfigol (Sytoleg / Ceg y groth)
  • Profion HIV
  • Mynediad i PrEP (proffylacsis cyn-gysylltiad)
  • Mynediad i PEP (proffylacsis ar ôl cyswllt)
  • Brechiadau - hepatitis B, hepatitis A, HPV a brech M (os bodlonir meini prawf penodol)
  • Cyngor ac atgyfeirio am erthyliad
  • Cefnogaeth i ddioddefwyr ymosodiad rhywiol
  • Cwnsela seicorywiol
  • Clinig pwrpasol i Bobl Ifanc

Gall cleifion sydd heb symptomau ar hyn o bryd ac sydd angen mynediad at sgrinio am STI wneud cais am brofion gan 'Iechyd Rhywiol Cymru' gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol: https://www.ircymru.online/

Ein Clinigau

Ar hyn o bryd rydym yn darparu clinigau Iechyd Rhywiol Integredig yn:

  • Heol y Chwarel (Pen-y-bont ar Ogwr)
  • Clinig Pen-coed (Pen-y-bont ar Ogwr)
  • Parc Iechyd Dewi Sant (Pontypridd)
  • Ysbyty Cwm Rhondda  (Rhondda)
  • Clinig Ynyswen (Rhondda)
  • Ysbyty Cwm Cynon (Aberpennar - Cynon)
  • Parc Iechyd Keir Hardie (Merthyr)
  • Canolfan Iechyd Aberdâr (Cynon)

Cysylltwch â ni

Mae pob mynediad i'n Clinigau Iechyd Rhywiol trwy apwyntiad yn unig.

Mae Amserlen y Clinig ar gael yma: Amserlen Clinig (Hydref 2024)

I wneud apwyntiad, cysylltwch â'n Llinellau Brysbennu isod:

MERTHYR a CHYNON 01685 728272 Dydd Llun i ddydd Gwener: 9.00yb – 12.00yp
PONTYPRIDD a RHONDDA 01443 443836 Dydd Llun i Ddydd Iau: 9.00yb – 12.00yp / 1yp – 3:30yp
Gwener: 9.00yb – 12.00yp
PEN-Y-BONT AR OGWR 01656 763030 Dydd Llun, Dydd Mercher a Dydd Gwener: 9yb – 12.00yp
BODYWISE (Gwasanaeth Cynghori Beichiogrwydd) 01443 443192 Dydd Llun i Ddydd Iau: 9.00am – 4.00pm
Gwener: 9.00yb – 12.00yp
Gwasanaeth Cynghori Beichiogrwydd (PAS) 01685 728497 Dydd Llun i Ddydd Iau: 9.00am – 4.00pm
Gwener: 9.00yb – 12.00yp

Ar hyn o bryd rydym yn cynnig clinig galw heibio pwrpasol i bobl ifanc 18 oed ac iau ar ddydd Llun yng Nghanolfan Iechyd Aberdâr rhwng 3yp a 6yp.

Dilynwch ni: