Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Cyswllt Nyrsio Anabledd Dysgu Aciwt

Mae gan BIP CTM dair Nyrs Cyswllt Anableddau Dysgu Acíwt sydd wedi'u lleoli yn:

  • Ysbyty Tywysoges Cymru
  • Ysbyty Brenhinol Morgannwg
  • Ysbyty’r Tywysog Siarl

Bydd y Nyrs Gyswllt yn:

  • Cadw cysylltiad â'r ward trwy gydol ymweliad y claf neu’r cyfnod y bydd yn yr ysbyty
  • Rhoi cyngor ac arweiniad
  • Cefnogi staff yr ysbyty i wneud addasiadau rhesymol lle bo angen
  • Darparu hyfforddiant hyrwyddo ac ymwybyddiaeth o Anableddau Dysgu i’r staff

I Bwy mae’r Gwasanaeth?

  • Pobl ag Anabledd Dysgu a'u teuluoedd a'u gofalwyr
  • Staff sy'n gweithio yn yr ysbytai hyn

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Na, dim ond pobl ag Anabledd Dysgu, eu teuluoedd a'u gofalwyr a staff sy'n gweithio yn yr ysbytai hyn

Amseroedd agor

8am - 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (ond mae'r gwasanaeth yn gweithio'n hyblyg y tu allan i'r oriau hyn lle bo angen)

Manylion cyswllt

Os bydd angen i chi gysylltu â'r Gwasanaeth Cyswllt Anableddau Dysgu:

Cysylltwch â'r ysbyty perthnasol:

  • Ysbyty'r Tywysog Charles 01685 721721 neu Dîm Anableddau Dysgu Cymunedol Gogledd RhCT 01685 351279
  • Ysbyty Brenhinol Morgannwg 01443 443443 neu Dîm Anableddau Dysgu Cymunedol De RhCT 01443 220418
  • Ysbyty Tywysoges Cymru 01656 752752 neu Dîm Anableddau Dysgu Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr 01656 815353
Dilynwch ni: