Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Anadlol, Ecsema ac Alergedd Paediatrig

allergy test, child with oxygen mask and child with eczema

Rydym yn dîm amlddisgyblaethol o Nyrsys Arbenigol Clinigol ac Ymgynghorwyr Paediatrig sy'n gofalu am blant a phobl ifanc ag amrywiaeth o gyflyrau anadlol, ecsema ac alergeddau bwyd. Rydym yn cydweithio'n agos i ddarparu gofal arbenigol i blant a phobl ifanc ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. 

Mae ein tîm yn gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am-5pm. Ar hyn o bryd nid oes gwasanaeth y tu allan i oriau nac dros y penwythnos. 

Nid yw'r gwasanaethau a ddarparwn ar gyfer problemau acíwt na brys. Ar gyfer unrhyw bryderon brys ynghylch eich plentyn, bydd angen i chi weld eich meddyg teulu eich hun neu fynychu'r Adran Argyfwng. 

Gwasanaethau sy’n cael eu cynnig 

Mae ein tîm amlddisgyblaethol yn cynnig gofal a chymorth i blant a phobl ifanc ag Asthma, Twbercwlosis (TB)/BCG, Ffibrosis Systig, Ocsigen yn y Cartref, Alergedd ac Ecsema.  

 

Manylion Cyswllt ar gyfer y Tîm Anadlol, Alergedd ac Ecsema 

  • Ysbyty'r Tywysog Siarl: 01685 728636
  • Ysbyty Brenhinol Morglannog: 01443 443217
  • Ysbyty Tywysoges Cymru: 01656 752125

Adnoddau a Dolenni Defnyddiol 

Dilynwch ni: