Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Iechyd Parhaus y GIG (CHC)

Mae Gofal Iechyd Parhaus y GIG, a elwir hefyd yn CHC, yn becyn o ofal parhaus a drefnir ac y telir amdano gan y GIG, ar gyfer oedolion 18 oed neu hŷn.

Byddwch yn gymwys i gael GIP os bydd eich Bwrdd Iechyd Lleol yn asesu bod gennych angen iechyd sylfaenol.

Os ydych yn gymwys ar gyfer GIP, bydd eich gofal yn cael ei ariannu gan y GIG ond mae hyn yn amodol ar adolygiad a phe bai eich anghenion gofal yn newid efallai y bydd y trefniadau ariannu hefyd yn newid.

Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG 

Mae Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG ar gael yng Nghymru o fis Ebrill 2026. 

Mae Taliadau Uniongyrchol yn eich galluogi i drefnu gwasanaethau gofal neu gymorth eich hun yn lle derbyn pecyn o ofal neu gymorth a drefnir gan y GIG. 

Mae angen i chi fod wedi cael asesiad Gofal Iechyd Parhaus y GIG a bod yn gymwys i gael Gofal Iechyd Parhaus y GIG er mwyn derbyn Taliadau Uniongyrchol. 

Mae Taliadau Uniongyrchol yn golygu y gallwch gael mwy o reolaeth dros y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch, a gwneud dewisiadau pwysig am eich Gofal Iechyd Parhaus y GIG. Fodd bynnag, rhaid defnyddio'r taliadau i ddiwallu'r anghenion y mae'r gwasanaethau cymdeithasol wedi cytuno y dylech gael cymorth ar eu cyfer. 

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Taliadau Uniongyrchol, mae angen i ni fod yn fodlon y gellir diwallu eich anghenion yn y ffordd hon a'ch bod yn gallu rheoli'r Taliadau Uniongyrchol, naill ai ar eich pen eich hun neu gyda chymorth a chefnogaeth. 

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fframwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer GIP ym mis Gorffennaf 2021 i'w roi ar waith ym mis Ebrill 2022. Cliciwch yma i weld y Fframwaith.

Mae'r Fframwaith yn nodi eu polisi ar gyfer cymhwysedd i gael GIP, a chyfrifoldebau sefydliadau'r GIG ac awdurdodau lleol o dan y Fframwaith a materion cysylltiedig.

Mae'r Fframwaith yn cynnwys proses i'r GIG, gan weithio gyda phartneriaid awdurdodau lleol, i asesu anghenion iechyd, penderfynu ar gymhwysedd i gael GIP a darparu gofal priodol.

Pwrpas y Fframwaith yw darparu sylfaen gyson ar gyfer asesu, comisiynu a darparu GIP i oedolion ledled Cymru.

Dilynwch ni: