Mae'r gwasanaeth Ffisiotherapi Cyhyrysgerbydol (MSK) ar gyfer pobl 16 oed a hŷn sydd â chyflyrau sy'n ymwneud ag esgyrn, cyhyrau a chymalau.
Mae’r gwasanaeth i bobl sy'n byw yn nalgylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Nid yw'r rhan fwyaf o gyflyrau cyhyrysgerbydol yn ddifrifol ac yn aml maent yn gwella gyda rhai camau syml y gallwch eu cymryd. Gyda'r wybodaeth a'r gefnogaeth gywir, gall llawer o bobl reoli eu cyflwr yn annibynnol heb yr angen i fynychu llawer o apwyntiadau. Yr enw ar hyn yw hunan-reolaeth.
Bydd y ddolen hon yn mynd â chi at gyngor a gwybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu gyda hunan-reolaeth. Rheoli eich poen yn yr esgyrn, y cymalau neu'r cyhyrau | Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
Os ydych chi’n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, mae gennych fynediad am ddim at ap getUBetter sydd wedi’i ddylunio i’ch cefnogi gyda’ch cyflwr cyhyrysgerbydol. Mae yno i’ch helpu i wneud y pethau cywir i ddechrau eich gwella yn ddiogel ac ar unwaith. Gallwch ddilyn y ddolen hon i'w gwefan neu sganio'r cod QR isod. Gofal wedi'i Deilwra i Gleifion ar gyfer poen MSK ac Iechyd Pelfis Menywod
Sganiwch y cod QR. Agorwch y camera a sganiwch y cod QR i lawrlwytho'r ap.
Methu defnyddio'r cod QR? Lawrlwythwch yr ap getUBetter o'r siop apiau.
Mae ffisiotherapi yn ddull triniaeth sy'n canolbwyntio ar sut mae'r corff yn ymateb i symudiad a gweithgarwch. Mae tystiolaeth ymchwil yn dweud wrthym fod ymarfer corff a rhoi sylw i sut rydym yn symud yn ffordd effeithiol o drin y rhan fwyaf o gyflyrau MSK.
Os ydych yn dod i weld Ffisiotherapydd gallwch ddisgwyl i weithgarwch ac ymarfer corff dyddiol gael eu trafod. Bydd eich Ffisiotherapydd yn eich helpu i ddeall beth sy'n ddiogel ac yn briodol i chi a'ch cyflwr.
Ymarfer corff priodol yw'r 'feddyginiaeth' sy'n cael ei gynghori amlaf gan Ffisiotherapyddion. Ochr yn ochr â chynllun symud ac ymarfer corff, os yw'n briodol efallai y bydd triniaethau eraill yn cael eu cynnig i chi fel symud neu drin cymalau.
Mae gwasanaeth Ffisiotherapi MSK yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer pobl sydd angen asesu a rheoli eu cyflwr. Gall ffisiotherapyddion wneud penderfyniadau ynghylch a oes angen unrhyw ymchwiliadau ai peidio a byddan nhw’n ystyried hyn fel rhan o'r cynllun ar gyfer rheoli eich cyflwr.
Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall eich anghenion a'ch dewisiadau a sut y gallwn eich cefnogi. Byddwn hefyd yn defnyddio amrywiaeth o wybodaeth amdanoch chi fel:
Byddwn yn trafod gyda chi beth yw eich dewisiadau, sut y gallwn eich helpu chi a beth allwch chi ei wneud i helpu eich hun. Byddwn yn anelu at gytuno ar gynllun gyda chi sy'n ystyried beth sy'n bwysig i chi.
Os ydych chi wedi gweld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol arall ynglŷn â'ch cyflwr MSK, gall eich atgyfeirio atom ni.
Os nad yw hunan-reolaeth wedi helpu eich cyflwr neu os yw eich symptomau'n gwaethygu, gallwch gysylltu â ni am gefnogaeth a chyngor.
Defnyddiwch y ddolen isod i ddweud wrthym am eich pryder.
Ffurflen Gyswllt Ffisiotherapi Cyhyrysgerbydol - Fill in form Llenwch y ffurflen
Canolfan Ffisiotherapi: 01443 715012