Neidio i'r prif gynnwy

Ffisiotherapi ar ôl strôc

Beth rydyn ni’n ei wneud

Mae ffisiotherapyddion strôc arbenigol yn darparu asesiadau a thriniaeth i gleifion sydd yn yr ysbyty ar ôl cael strôc.

Mae ffisiotherapyddion ar gael o’r adeg y bydd y cleifion yn cael eu derbyn a’u hasesu yn yr Uned Strôc Acíwt yn Ysbyty’r Tywysog Siarl drwy eu cyfnod parhaus o adsefydlu yn yr Uned Adsefydlu yn sgil Strôc yn Ysbyty Cwm Rhondda (os bydd angen). Bydd modd adsefydlu ymhellach gartref drwy gymorth y Tîm Rhyddhau Cynnar â Chymorth os bydd eich ffisiotherapydd yn credu bod angen hyn.

Ein prif nodau yw sicrhau na fyddwch chi’n cael trafferth symud, gwella eich gweithrediadau, atal cymhlethdodau yn y frest a sicrhau eich bod chi mor annibynnol â phosib. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda chleifion a theuluoedd i greu nodau triniaeth ac i nodi anghenion unigol cleifion.

 

I bwy mae’r gwasanaeth?

Bydd pob claf strôc sy’n cael eu derbyn i’r Uned Strôc Acíwt ar ôl cael diagnosis newydd o strôc yn cael asesiad cynhwysfawr gan ffisiotherapyddion arbenigol.

Ar ôl yr asesiad, mae’n bosib y byddwn ni’n darparu ffisiotherapi parhaus i gleifion strôc.

  • Yn Ysbyty Cwm Rhondda
  • Yn Ysbyty Cwm Cynon
  • Trwy’r Tîm Rhyddhau Cynnar â Chymorth

 

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae pob claf sydd wedi cael diagnosis newydd o strôc yn gallu defnyddio’r gwasanaeth strôc. Byddwn ni’n darparu ffisiotherapi parhaus ar ôl yr asesiad yn unol â chanlyniadau’r asesiad.

 

Oriau agor
8.30am – 4.30pm dydd Llun – Dydd Gwener ar bob safle

 

Beth i'w ddisgwyl

Bydd y ffisiotherapydd yn cwblhau asesiad llawn a manwl o’ch gallu i symud, eich cryfder, eich gweithrediadau, eich cydbwysedd a’ch symudedd. Ar ôl hyn, bydd y ffisiotherapydd yn gweithio’n agos gyda chi i ddatblygu cynllun triniaeth unigol.

Gall triniaeth gynnwys

  • Asesiad eistedd
  • Ymarfer symudedd gan gynnwys ailystwytho eich osgo
  • Ymarferion cydbwyso
  • Adsefydlu’r breichiau
  • Presgripsiynu ymarferion corff
  • Gwella eich mynediad i’r gymuned yn y cartref.

 

Cysylltwch â ni

Os bydd angen i chi siarad â ffisiotherapydd, cysylltwch â’r ward mae’r claf/roedd y claf arni.

 

Dolenni defnyddiol

Y Gymdeithas Strôc
Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi

Dilynwch ni: