Mae’r term endosgopi yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio archwiliad gweledol uniongyrchol o unrhyw ran o du mewn y corff trwy offeryn gwylio optegol.
Gall hyn fod trwy'r geg i'r stumog (gastrosgopi), trwy'r anws i'r coluddyn mawr (colonosgopi neu sigmoidosgopi hyblyg), trwy'r trwyn neu'r geg i'r ysgyfaint (broncosgopi).
Archwiliad arall sy'n cael ei gyflawni gan y staff endosgopi yw ERCP (colangiopancreatograffi gwrthredol endosgopig/endoscopic retrograde cholangiopancreatography). Mae lliw yn cael ei chwistrellu i mewn i ddwythellau’r bustl a’r cefndedyn (bile and pancreatic ducts) gan ddefnyddio endosgop fideo hyblyg. Yna cymerir pelydrau-x i amlinellu dwythellau’r bustl a'r pancreas.
Mae 3 uned endosgopi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant ac Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr.
Mae pob uned yn darparu gwasanaethau ar gyfer cleifion mewnol a chleifion allanol ar gyfer y boblogaeth ym mhob ardal gyfagos.
Ysbyty Tywysoges CymruMae'r Uned Endosgopi Ysbyty Tywysoges Cymru yn darparu gwasanaethau cleifion mewnol a chleifion allanol i gleifion sydd angen:
Yn ogystal â gweithdrefnau diagnostig a gwyliadwriaeth, rydyn ni’n cyflawni gweithdrefnau therapiwtig gan gynnwys polypectomi, haemostasis ar gyfer gwaedu, gosod stentiau a lledu culfannau Rhif Cyswllt: |
Ysbyty Brenhinol MorgannwgMae'r Uned Endosgopi Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn darparu gwasanaethau cleifion mewnol a chleifion allanol i gleifion sydd angen:
Mae cynllun hefyd i gyflwyno Endosgopi Capsiwl yn y dyfodol. Rhif Cyswllt: 01443 443443 Est 73054 |
Ysbyty Tywysog SiarlMae'r Uned Endosgopi Ysbyty’r Tywysog Siarl yn darparu gwasanaethau cleifion mewnol a chleifion allanol i gleifion sydd angen:
Rhif Cyswllt: |