Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth i staff CTM sy'n byw gyda diabetes

Os ydych chi'n gweithio i BIPCTM ac yn byw gyda diabetes, cofiwch fod help ar gael: 

  • Gall Iechyd Galwedigaethol ddarparu cyngor a chymorth wedi'i deilwra. 
    Ffoniwch: 01443 443231 ar gyfer tîm iechyd galwedigaethol CTM am gyngor pellach

  • Vivup - Rhaglen Gymorth i Weithwyr (EAP). Os oes angen cymorth arnoch i ddelio â materion personol, mae BIPCTM yn ariannu mynediad i linell gymorth a gwasanaeth cwnsela rhad ac am ddim i staff. Siaradwch yn gyfrinachol â chwnselwyr cwbl gymwys ac arbenigwyr cymorth 24/7 i drafod unrhyw bryderon emosiynol. Mae popeth sy’n cael ei drafod yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol. I gael mynediad, ffoniwch 03303 800658. 

  • Efallai y bydd trefniadau gweithio hyblyg ar gael i gefnogi eich anghenion iechyd. 

Ewch i dudalen cymorth cyflogwyr Diabetes UK am fwy o adnoddau gan gynnwys gyrru a diabetes, amser i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer salwch ac archwiliadau, a mynychu cwrs addysg diabetes.

Polisi Rheoli Presenoldeb yn y Gwaith GIG Cymru: 

Cliciwch yma i weld y Polisi Rheoli Presenoldeb yn y Gwaith. 

  • Gweler Adran 01 - 4.14 am ganllawiau ar apwyntiadau meddygol. 

  • Gweler Adran 08 – 3.0 am fanylion ar Absenoldeb oherwydd Anabledd / Cyflwr Iechyd a Lles.

Gwybodaeth i Reolwyr

Mae hyfforddiant Rheoli Presenoldeb yn y Gwaith (MAAW) ar gael bob yn ail wythnos. Cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Pobl i gael rhagor o wybodaeth am ddyddiadau sydd ar ddod a sut i archebu eich lle. 

Dilynwch ni: