Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Iechyd a Lles Newydd Pen-y-Bont ar Ogwr

Mae datblygiad y Ganolfan Iechyd a Lles newydd hir ddisgwyliedig ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr bellach ar y safle a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn ystod gwanwyn 2025.

Mae'r ganolfan newydd yn ganolfan amlddisgyblaethol a fydd yn darparu lle newydd, pwrpasol ar gyfer ystod o wasanaethau gofal iechyd i gleifion Pen-y-bont ar Ogwr a'r ardaloedd cyfagos.

Wedi’i hadeiladu ar safle’r hen Lys Ynadon ar Ffordd Sunnyside, ac yn agos at Ganolfan Hamdden Halo – Pen-y-bont ar Ogwr, bydd y Ganolfan Gofal Iechyd newydd yn gyfleuster ar ei phen ei hun a bydd yn dod yn gyfleuster gofal iechyd sy’n eiddo i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac a reolir ganddo.

Bydd yr adeilad newydd hefyd yn darparu un safle ar gyfer darparu ystod o wasanaethau i gleifion ar draws Pen-y-bont gyfan a'r ardal ehangach.  Bydd y rhain yn cynnwys:

  • Gwasanaethau Iaith a Lleferydd, Awdioleg, Clinigau Iechyd Rhywiol, Ystafelloedd Triniaeth dan Arweiniad Nyrs Ardal, Gwasanaethau Paediatrig.
     
  • Tîm Deintyddol Arbenigol, gwasanaeth atgyfeirio yn unig yw hwn, sy’n wasanaeth pwrpasol i ddarparu gofal deintyddol i grwpiau cleifion agored i niwed a allai fel arall ei chael yn anodd cael mynediad at driniaeth. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd â namau dysgu, cyflyrau iechyd meddwl a'r rhai â chyflyrau meddygol cymhleth.
     
  • Gwasanaethau Cymunedol Integredig a ddarperir gan y Tîm Rhwydwaith Cymunedol. Mae hwn yn dîm aml-asiantaeth o staff sy'n cefnogi oedolion 18 oed a throsodd, a all fod ag anabledd corfforol; salwch cronig neu heriau gydag eiddilwch.
Pryd fydd y Ganolfan newydd yn agor?

Yr amser ar gyfer cwblhau'r adeilad yw gwanwyn 2026.

Bydd y Bwrdd Iechyd a'r Meddygfa yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gleifion am gynnydd wrth i'r gwaith adeiladu barhau.

Rydym hefyd yn bwriadu cynnal diwrnod agored i gleifion unwaith y bydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau er mwyn i gleifion allu ymweld â'r Ganolfan newydd cyn iddi agor.

Ewch i'n gwefan a'n tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf.

Dilynwch ni: