Neidio i'r prif gynnwy

Adsefydlu Pwlmonaidd

Beth yw hwn?

Mae adsefydlu pwlmonaidd wedi'i gynllunio i helpu pobl sy'n byw gyda chyflwr ar yr ysgyfaint, sy'n profi diffyg anadl yn ystod eu gweithgareddau dyddiol.

Mae'n cael ei redeg gan dîm o weithwyr gofal iechyd proffesiynol gan gynnwys Ffisiotherapydd, Therapydd Galwedigaethol, Dietegydd a Nyrs Anadlol. 

Mae’r rhaglen yn cynnwys:

  • Gwybodaeth ryngweithiol am sut i ofalu am eich corff a'ch ysgyfaint
  • Cyngor ac addysg ar sut i reoli cyflwr eich ysgyfaint
  • Technegau i reoli diffyg anadl
  • Dosbarthiadau ymarfer corff

Mae’r tîm arbenigol yma i’ch helpu, a’ch cefnogi gyda’r opsiynau cywir i chi.

Mae tystiolaeth wedi dangos y gall adsefydlu pwlmonaidd wella gallu unigolyn i wneud ymarfer corff, lleihau symptomau diffyg anadl a blinder, a hybu manteision hirdymor cadarnhaol i iechyd corfforol a meddyliol. 

I bwy mae’r gwasanaeth?

Mae adsefydlu pwlmonaidd wedi’i anelu at bobl sy’n byw gyda chyflwr ysgyfaint cronig fel:

  • COPD (clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint)
  • Bronciectasis
  • Ffibrosis yr ysgyfaint
  • Asthma cronig

Beth i'w ddisgwyl?

 Bydd sgwrs ffôn gydag un o'n tîm yn cael ei threfnu, i chi drafod cyflwr eich ysgyfaint, a sut mae'n effeithio ar eich bywyd bob dydd. Yna bydd eich gwybodaeth yn cael ei thrafod gyda'r tîm ehangach a byddwch yn cael eich gwahodd i fynychu asesiad 1:1 cychwynnol gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Os yn addas, byddwch yn derbyn gwahoddiad i fynychu sesiynau ddwywaith yr wythnos am 6 wythnos. Mae'r sesiynau'n cynnwys ymarfer corff ac addysg dan oruchwyliaeth, ac yn para tua 90 munud. Byddwch mewn grŵp gyda phobl eraill sydd â'r un cyflyrau neu gyflyrau tebyg.

Mae’r cyrsiau’n cael eu cynnal mewn lleoliadau amrywiol ar draws Rhondda Cynon Taf a Merthyr. Gallwch fynychu lleoliad sydd agosaf at eich cartref.

A all unrhyw un gael mynediad at y gwasanaeth hwn?

Mae adsefydlu pwlmonaidd ar gael i bobl â chyflwr ar yr ysgyfaint, sy’n profi diffyg anadl sy’n effeithio ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd. 

Efallai na fydd y rhaglen yn addas i chi os:

  • Rhai cyflyrau iechyd e.e problemau'r galon

Os ydych yn ansicr a fydd y rhaglen yn addas i chi, siaradwch â'ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall.

Stori Claf

 

Dolenni Defnyddiol

Dilynwch ni: