Bydd ein gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn dychwelyd i Ysbyty Tywysoges Cymru dros yr wythnosau nesaf ym mis Chwefror 2025.
Dechreuodd y broses o gau ein hunedau mamolaeth a newyddenedigol dros dro ym mis Medi y llynedd er mwyn ein galluogi i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol. Yn ogystal â'r gwaith hwn, mae prosiect ystadau ar raddfa fawr i ailosod to prif gorff yr ysbyty hefyd yn mynd rhagddo.
Mae’r gwaith gwella i’r unedau mamolaeth a newyddenedigol, a’r to dros y rhan hon o’r ysbyty, bellach wedi’i gwblhau ac rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu yn ôl i safle Ysbyty Tywysoges Cymru.
Mae angen i ni wneud hyn drwy ddilyn dull graddol i wneud yn siŵr ein bod yn cadw ein holl fenywod, pobl sy’n rhoi genedigaeth a babanod yn ddiogel wrth i ni ddychwelyd gwasanaethau i normal.
Mae ein hamserlenni ar gyfer dychwelyd fel a ganlyn:
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich beichiogrwydd, neu os oes gennych unrhyw reswm i fynd i’r ysbyty cyn iddi ail-agor, cysylltwch ag Uned Blaenoriaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ar 07442 865989. Bydd y fydwraig sy'n derbyn yr alwad yn rhoi cyngor clinigol ac yn eich cyfeirio ymhellach os bydd angen asesiad neu dderbyniad arnoch.
O ddydd Llun 17 Chwefror, y rhif ffôn cyswllt ar gyfer Uned Blaenoriaethau Mamolaeth Tywysoges Cymru yw: 01656 752309.
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu yn ôl i Ysbyty Tywysoges Cymru.