Mae practisiau Optometreg wedi gallu cynyddu eu darpariaeth o wasanaethau ers mis Mehefin, ac maen nhw wedi ailgychwyn rhai triniaethau i’r cleifion mwyaf anghenus. Bydd gwasanaethau eraill yn cael eu hailgychwyn yn raddol. Bydd y rhai sydd wedi dioddef o broblemau difrifol yn ystod y pandemig, a’r rhai sydd gydag anghenion gofal brys, yn cael eu blaenoriaethu wrth i bractisiau ddechrau cynnig gwasanaeth arferol eto.
Peidiwch â disgwyl i’ch ymweliad â’ch optegydd fod yn debyg i sut oedd cyn y pandemig. Oherwydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol a rheoli heintiau, bydd gwasanaethau practisiau’n gyfyngedig iawn, iawn ar hyn o bryd.
Bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol a rheoli heintiau’n amrywio rhwng practisiau. Dilynwch gyngor y practis wrth ymweld.
Peidiwch ag ymweld â phractis Optometreg os oes gyda chi, neu unrhyw un sy’n byw gyda chi, symptomau o’r Coronafeirws.
Er mwyn cefnogi anghenion gofal llygaid cymunedau, yn 2023 gosododd LlC ddyletswydd ar Fyrddau Iechyd Lleol i gynnal asesiad anghenion iechyd llygaid bob tair blynedd i ganfod anghenion y cyhoedd o ran darpariaeth gofal llygaid mewn gofal sylfaenol ac eilaidd.
Bydd lefelau uwch o wasanaethau clinigol a nodwyd gan yr asesiadau anghenion gofal llygaid lleol yn cael eu cyflwyno ar lefel clwstwr i gryfhau'r ddarpariaeth hon. Gyda'i gilydd, bydd yr asesiad anghenion ynghyd â chyflawni ar ôl troed clwstwr yn sicrhau y bydd anghenion y boblogaeth leol yn cael eu hystyried yn llawn a'u cyflawni yn eu herbyn.
Mae'r Asesiad Anghenion Iechyd Llygaid hwn wedi'i baratoi yn unol â Chyfarwyddyd Deddfwriaethol ac mae'n ymwneud â darparu lefelau 1—5 Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS) a ddarperir o dan drefniadau a wneir gan Fyrddau Iechyd Lleol ac mae'n cynnwys:
Asesiad Anghenion Iechyd Llygaid - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.pdf