Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwasanaeth Cymorth a Chyswllt Cleifion

Mae'r Gwasanaeth Cymorth a Chyswllt Cleifion (PALS) yn darparu cyngor, gwybodaeth a chymorth cyfrinachol am ddim. Gallwn eich helpu gydag unrhyw bryderon neu ymholiadau sydd gyda chi am eich gofal chi, gofal eich anwyliaid neu ofal rywun rydych yn eu cefnogi, gan ddarparu cymorth pan fyddwch ei angen, neu ddim yn gwybod ble i droi.

Gall PALS eich helpu i ddatrys unrhyw bryderon a all godi a bydd yn gweithio gyda staff a rheolwyr i drafod atebion cyflym i broblemau neu gwestiynau.

Mae PALS i bawb, p'un a ydych yn defnyddio ein gwasanaethau neu'n gofalu am rywun sy'n eu defnyddio.

I gysylltu â thimau PALS ar draws y Bwrdd Iechyd:

Os ydych chi'n dal yn anfodlon ar ôl cysylltu â'r tîm PALS, gallwch gysylltu â thîm Pryderon y BI drwy'r manylion isod:

Y Tîm Pryderon y BI
I godi pryder, cysylltwch
â'r tîm ar 01443 744915 neu drwy e-bost ar: CTHB.Concerns@wales.nhs.uk a fydd yn gallu eich cefnogi drwy'r broses Gweithio i Wella (PTR).

Dilynwch ni: