Mae orthotyddion yn arbenigo mewn defnyddio orthoses (sblintiau, ategion) ar gyfer pob rhan o'r corff. Gall hyn fod i gywiro anffurfiad, gwella gweithrediad neu leihau poen.
Mae'r gwasanaeth Ffisiotherapi Plant (Ffisiotherapi Paediatrig) yn gweld babanod, plant a phobl ifanc o 0 i 18 oed, sy'n profi oedi yn eu datblygiad neu'n cael eu heffeithio gan anaf, salwch neu anabledd.
Gall podiatrydd plant asesu a chynghori ar ystod eang o faterion datblygiadol a gweithredol coesau. Gall gynghori ymarferion i helpu, rhoi gwadnau mewnol ar bresgripsiwn neu’n syml rhoi cyngor.
Cymorth Iechyd Meddwl a Lles i Blant a Phobl Ifanc
Mae ein Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yn rhoi cymorth i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd mewn sawl ffordd, gan gynnwys therapïau siarad fel therapi gwybyddol ymddygiadol, therapïau grŵp a therapi teulu.
Mae brechu yn achub bywydau. Mae llawer o adnoddau imiwneiddio a brechu ar gael i'ch helpu chi i amddiffyn eich hun, eich plant neu unrhyw un sydd o dan eich gofal rhag salwch.
Gweler tudalennau cyfryngau cymdeithasol a gwefan CTM i gael diweddariadau rheolaidd
Ydych chi'n chwilio am rai syniadau ar gyfer bwydydd ffres neu efallai eich bod eisiau teimlo’n fwy hyderus yn rheoli'r heriau niferus sy’n gysylltiedig â bywyd teuluol prysur? Mae gennym ni amrywiaeth o raglenni ac adnoddau cymunedol am ddim a all eich helpu chi a'ch teulu i fyw bywyd hapus ac iach.