Gall podiatrydd plant asesu a chynghori ar ystod eang o faterion datblygiadol a gweithredol coesau. Gall gynghori ymarferion i helpu, rhoi gwadnau mewnol ar bresgripsiwn neu’n syml rhoi cyngor.
Mae’r gwasanaeth ar gael i blant a phobl ifanc 0-18 oed sydd wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu yng Nghwm Taf Morgannwg. I gael asesiad gyda’r podiatrydd bydd angen atgyfeiriad gan eich meddyg teulu, ymgynghorydd neu weithiwr iechyd proffesiynol fel ymwelydd iechyd neu ffisiotherapydd.
Cysylltwch â Ni
Yr Adran Podiatreg
Ffôn: 01443 443003 neu 443005
Sylwch, mae Gwasanaethau Podiatreg Cymunedol i’n preswylwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael eu darparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Cysylltwch â nhw ar 0300 300 0024