Mae orthotyddion yn arbenigo mewn defnyddio orthoses (sblintiau, ategion) ar gyfer pob rhan o'r corff. Gall hyn fod i gywiro anffurfiad, gwella gweithrediad neu leihau poen.
Rydym yn gweld plant a phobl ifanc ag amrywiaeth o gyflyrau gan gynnwys:
Cyflyrau niwrolegol, e.e. Parlys yr Ymennydd
Anhwylderau niwrogyhyrol e.e. Nychdod Cyhyrol
Spina Bifida
Cyflyrau orthopaedig a chyhyrysgerbydol
Oedi datblygiadol
I gael asesiad gyda'r orthotydd bydd angen atgyfeiriad gan eich ymgynghorydd neu weithiwr iechyd proffesiynol fel ffisiotherapydd neu therapydd galwedigaethol. Dydy orthotyddion ddim yn gallu derbyn atgyfeiriadau gan feddygon teulu ac ymwelwyr iechyd.
Adran Orthoteg
Oriau Agor: 8am - 4pm