Neidio i'r prif gynnwy

Mynediad at Ofal Iechyd

Practis Meddyg Teulu

Bydd pobl o Wcráin sy'n cyrraedd Cymru yn gallu cael mynediad at ofal iechyd y GIG yn rhad ac am ddim gan gynnwys ymgynghoriadau gan feddygon teulu a nyrsys, gwasanaethau ysbyty a mynediad at ofal brys. Bydd pobl o Wcráin sy'n dod i'r DU hefyd yn cael cynnig brechlynnau COVID-19 a sgrinio iechyd cyhoeddus.

Taflen wybodaeth ar Fynediad at Ofal Iechyd wrth gyrraedd Cwm Taf Morgannwg

Lawrlwytho Cerdyn Cofrestru Meddyg Teulu i gofrestru a derbyn triniaeth gan feddygfa yng Nghymru

 


GIG 111 Cymru

Mae GIG 111 Cymru yn darparu cyngor iechyd a mynediad at ofal brys nad yw’n argyfwng.

Gwiriwch eich symptomau a chael cyngor iechyd ar-lein (Cymraeg a Saesneg)

Ffoniwch 111 yn rhad ac am ddim o'ch ffôn symudol neu linell tir i siarad â chynghorydd yn y Gymraeg, Saesneg neu un o dros 120 o ieithoedd drwy gyfieithiad dros y ffôn a gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud pan fyddwch yn galw yw nodi yn Saesneg yr iaith y byddai’n well gennych ei defnyddio.

 


Gwasanaeth Brys

Os oes gennych argyfwng sy'n peryglu bywyd – dylech ffonio 999 ar unwaith neu fynd yn syth i un o'n hadrannau achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Siarl neu Ysbyty Brenhinol Morgannwg neu Ysbyty Tywysoges Cymru. 

Os nad yw eich sefyllfa'n peryglu bywyd neu'n argyfwng – rhowch gynnig ar un o'n gwasanaethau eraill yn lle hynny.

Yn gyntaf – defnyddiwch wiriwr symptomau GIG 111 Cymru ar-lein. O boen dannedd i boen cefn, brech ar y croen i frathiadau a phigiadau - mae mwy na 60 o wirwyr symptomau i roi cyngor dibynadwy i chi ar eich camau nesaf. Cliciwch yma: GIG 111 Cymru

Os na allwch ddod o hyd i'ch ateb ar-lein – i gael cyngor iechyd brys gallwch ffonio 111.

Ewch i'n gwefan i gael mwy o wybodaeth am y gwasanaethau eraill sydd ar gael i chi y penwythnos hwn: Gwasanaethau Iechyd LLEOL y GIG - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae popeth sydd ei angen arnoch chi yma o fanylion cyswllt ein deintydd brys i gyngor ar afiechydon cyffredin mewn plant fel clustiau tost, twymyn a dolur gwddf.

Mae eich fferyllfa leol hefyd yn ffordd wych o gael cyngor a thriniaeth arbenigol. 

Dilynwch ni: