Neidio i'r prif gynnwy

Dolenni Defnyddiol

Cynlluniau Adsefydlu a Fisa:

I weld canllawiau am y cymorth sydd ar gael i wladolion Wcráin ac aelodau o'u teulu gan Lywodraeth y DU.

Gallwch gael cyngor pellach gan gynghorydd cyfreithiol gwirfoddol drwy e-bostio ukraine@freemovement.org.uk.

Mae rhagor o gyngor ac arweiniad am system mewnfudo a lloches y DU ar gael ar wefan Right To Remain, neu ewch i dudalennau gwe eich Awdurdod Lleol i gael mwy o fanylion am Gymorth Cyngor ar Bopeth yn eich ardal leol.

 
Cyrraedd Cymru:

Mae gwefan Noddfa Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybodaeth i bobl o'r Wcráin sy'n cyrraedd Cymru am fywyd yng Nghymru, gan gynnwys sut i roi gwybod am unrhyw bryderon diogelu: Noddfa

Sefydlwyd llinell gymorth gan Lywodraeth Cymru i gynnig cyngor i bobl sy'n cyrraedd Cymru o'r Wcráin: 
Ffôn: 0808 175 1508 (o fewn y DU) a 0204 5425671 (y tu allan i'r DU)

Mae Cymdeithas Wcráiniaid Prydain Fawr hefyd yn cynnig cymorth i aelodau teulu gwladolion Prydain yn Wcráin, ac i wladolion Wcráin sy'n byw yn y DU.

 
Cymorth Gofal Iechyd:

Mae ystod lawn o wybodaeth am gymorth i gleifion ar gael yma - Mynediad i Ofal Iechyd.

 

Brechlyn Covid-19:

Gallwch ddod o hyd i daflenni a gwybodaeth brechu yma - Taflenni a gwybodaeth brechu ar gyfer pobl yn cyrraedd o Wcráin.

 

Cymorth Iechyd Meddwl:

Gall y sefyllfa yn Wcráin fod yn drawmatig i aelodau o'r teulu, i ffrindiau ac i’r rhai sy'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’r Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru - Llinell Gyngor a Gwrando’r Gymuned ar gael 24 awr y dydd i wrando ac i ddarparu cymorth. 
Ffôn: 0800 132737 neu Tecstiwch 'Help' i 81066.

Os ydych chi'n brwydro gyda'ch iechyd meddwl, rhowch wybod i'ch Asesydd gwaith cymorth neu les. Rydyn ni yma i chi.

 
Cyngor Teithio yn Wcrain:

Gwybodaeth swyddogol am gyngor teithio i Wcráin ac o’r wlad ewch i GOV.UK.

 
Diogelu:

Mae cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru. Rydyn ni am amddiffyn plant a'u hawliau, er mwyn rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd iddynt.  Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y tudalennau hyn.

Dilynwch ni: