System adborth newydd i gleifion yw CIVICA sy'n galluogi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ymgysylltu â'n cymunedau a gwrando ar sut rydych chi, y cyhoedd, yn dweud bod angen i ni wella ein gwasanaethau er mwyn darparu gwell profiad i chi. Bydd hefyd yn ffordd o ddysgu ac o roi eich argymhellion ar waith.
Bydd y system newydd hon yn darparu'r data sydd ei angen ar y Bwrdd Iechyd i ganfod unrhyw broblemau ac i ddeall taith y claf drwy ein gwasanaethau yn well, ochr yn ochr â thaith y teulu a gofalwyr yn ogystal.
Mae sawl ffordd i gleifion rannu adborth, yn eu plith:
Beth fyddwch chi’n ofyn i fi?
Mae CIVICA yn ystyried sawl agwedd ar brofiad y claf, megis: Oedden ni wedi gwrando arnoch chi? Oeddech chi wedi cael eich trin ag urddas a pharch? Oeddech chi wedi cael eich trin mewn amgylchedd glân a diogel? Oeddech chi wedi cymryd rhan lawn yn y broses o wneud penderfyniadau am eich gofal a'ch triniaeth? Oeddech chi’n gallu defnyddio’r Gymraeg ayyb.
Mae'r system hon yn ddatblygiad pwysig iawn i Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg gan y bydd yn galluogi staff i weld adborth am eu ward /adran nhw. Bydd hyn ei gwneud yn bosibl iddyn nhw wneud gwelliannau yn y maes hwnnw.
Mae system CIVICA wedi cael ei brofi yn ddiweddar ac mae sawl arolwg o brofiad cleifion ar draws llawer o grwpiau defnyddwyr wedi ei gynnal, yn eu plith yn y meysydd mamolaeth, pediatreg a methiant y galon.
Dyma’r Tîm Profiad y Claf i egluro: “Mae llwyfan CIVICA yn llwyddiant mawr ac rydym wedi gweld llawer o ddiddordeb gan lawer o grwpiau o ddefnyddwyr gwasanaethau a gan gleifion fel ei gilydd.
“Rydym yn edrych ymlaen at weld y data dros y misoedd nesaf a dechrau nodi lle gallwn ni wneud gwelliannau pellach fel Bwrdd Iechyd, er mwyn rhoi'r profiad gorau posibl i gleifion yn ein cymunedau yng Nghwm Taf Morgannwg.”
Posteri