Neidio i'r prif gynnwy

Beth mae Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yn ei wneud?

Amcanion Tîm VBHC BIP CTM yw:

  • Bod yn Sefydliad VBHC aeddfed sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, sy'n arwain, ymgorffori, dysgu a rhannu yn effeithiol, o fewn BIP CTM, ledled Cymru ac yn rhyngwladol                                                    
  • Gwella canlyniadau a phrofiadau cleifion drwy gynllunio a darparu gofal a thriniaeth o werth uchel, a rhoi’r gorau i fuddsoddi mewn gofal gwerth isel, mewn modd teg ar draws tirwedd a phortffolio BIP CTM.
  • Defnyddio technoleg ddigidol a dadansoddeg i ddangos tystiolaeth a chyflawni canlyniadau a phrofiadau gwerth uchel, defnyddio adnoddau'n effeithiol ac yn effeithlon, a gwella iechyd a lles y boblogaeth
  • Ymgorffori a chefnogi diwylliant, ymddygiadau a sgiliau i alluogi gwneud penderfyniadau ar y cyd sy’n wybodus ac ag undod pwrpas VBHC ar draws y sefydliad
  • Cysoni VBHC gyda blaenoriaethau cenedlaethol a rhai BIP CTM                                                                             
  • Gweithio gydag adrannau mewnol a phartneriaid strategol i gyflawni ar draws 4 colofn VBHC trwy gydol gwaith BIP CTM
  • Datblygu Canolfan Ragoriaeth a gefnogir gan y Ganolfan Gwerth mewn Iechyd Cenedlaethol, Academia, Partneriaid Strategol a Diwydiant