Neidio i'r prif gynnwy

Pwy ydym ni?

Gosododd Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth (VBHC) raglen tair blynedd i ymgorffori dull VBHC yn rhan o wireddu'r athroniaeth Gofal Iechyd Darbodus. Nod BIP CTM yw bod ar flaen agenda VBHC yng Nghymru ac ar sail ryngwladol ac, yn 2021, fe sefydlodd Tîm VBHC yn BIP CTM. Mae'n eistedd o fewn y Gyfarwyddiaeth iCTM ac mae’n ariannu ac yn rheoli prosiectau VBHC ledled y Bwrdd Iechyd.

Mae Tîm VBHC y Bwrdd Iechyd yn Dîm Amlddisgyblaethol dan arweiniad Denise Lowry, gyda chynrychiolaeth o Gyllid (Simon Barrell), Caffael (Esther Price) a Hwb Newid iCTM (Samantha Connell).

Mae VBHC yn ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n ein galluogi i ddeall a gweithredu ar y pethau sydd bwysicaf i gleifion. Bydd yr wybodaeth hon yn helpu timau clinigol i weithio gyda chleifion i wneud penderfyniadau am eu canlyniadau gofal ac iechyd gyda staff a bydd yn helpu BIP CTM i ddarparu gofal gwerth uchel, ac i ddefnyddio ein hadnoddau'n effeithlon i ddarparu'r gofal sydd â'r canlyniadau gorau i'n dinasyddion.

Mae’r Tîm VBHC yn gweithio ar y cyd ar draws y Bwrdd Iechyd a phartneriaid i ddefnyddio VBHC ar draws y system iechyd gyfan, gan ymgorffori ei athroniaeth a'i fethodoleg yn ein gweithrediadau a'n gwaith o ddydd i ddydd. Bydd ein huchelgais i wella canlyniadau sy'n canolbwyntio ar y claf ac iechyd y boblogaeth ac i ddefnyddio ein hadnoddau'n effeithiol yn cael ei chyflawni drwy weithio mewn partneriaeth â'n cleifion, a byddwn yn dewis yr ymyriadau sy'n darparu gofal a chanlyniadau gwerth uchel mewn cydweithrediad gyda nhw.

Ar hyn o bryd, disgrifir 'gwerth' yng nghyd-destun gofal iechyd yn aml fel “canlyniadau iechyd o'u cymharu â mewnbynnau wedi’u costio”, gyda'r nod o gynyddu cost-effeithiolrwydd. Cafodd y dehongliad hwn o 'werth' ei ystyried gan Banel Arbenigol y Comisiwn Ewropeaidd yn rhy gul ac mae'r syniad o 'Ofal Iechyd Seiliedig ar Werthoedd' yn ymddangos yn fwy addas wrth gyfleu'r egwyddorion arweiniol sy'n sail i systemau gofal iechyd sy'n seiliedig ar gydgefnogaeth.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid mabwysiadu defnydd mwy cynhwysfawr o 'werth' yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol ac ar bedair colofn gwerth:

  • Gwerth Dyrannol: sicrhau bod yr holl adnoddau sydd ar gael yn cael eu hystyried a'u dosbarthu mewn modd teg
  • Gwerth Technegol: sicrhau bod yr adnoddau a ddyrannwyd yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau bosibl (dim gwastraff)
  • Gwerth Personol: sicrhau bod gwerthoedd pob claf unigol yn cael eu defnyddio fel sail ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn ffordd a fydd yn sicrhau'r manteision gorau iddynt
  • Gwerth Cymdeithasol: sicrhau bod yr ymyrraeth mewn gofal iechyd yn cyfrannu at gysylltedd, cydlyniant cymdeithasol, undod, parch at ei gilydd, bod yn agored i amrywiaeth, lles a ffynnu. Mae hefyd yn cynnwys penderfynyddion ehangach iechyd a lles, gan gynnwys effaith amgylcheddol, rheoli ynni a gwastraff, goblygiadau ar gyfer economi gylchol a chreu cymunedau bywiog a chadarn

 

Dim ond pan fydd pob un o'r pedair cydran hyn yn cael eu disgrifio a'u trin yr ydym yn mynd i'r afael â'r diffiniad o VBHC fel cysyniad cynhwysfawr wedi'i adeiladu ar bedair colofn gwerth: gofal priodol i gyflawni nodau personol cleifion (gwerth personol), cyflawni'r canlyniadau gorau posibl gyda'r adnoddau sydd ar gael (gwerth technegol), dosbarthiad adnoddau teg ar draws pob grŵp o gleifion (gwerth dyrannol) a chyfraniad gofal iechyd at gyfranogiad cymdeithasol a chysylltiad (gwerth cymdeithasol).