Neidio i'r prif gynnwy

Dangosyddion marwolaethau

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM) yn parhau i gydweithio â’i gydweithwyr ar draws GIG Cymru i gyflwyno ffyrdd gwell o fesur canlyniadau a pherfformiad clinigol ac i ddysgu a gwella ansawdd gofal. Yn ogystal â hynny, mae holl ddata marwolaethau BIP CTM yn cael ei ddadansoddi’n fewnol yn rheolaidd ac yn barhaus. Dydy ein dadansoddiad ddim wedi canfod unrhyw dystiolaeth o fethiant systematig yn ein gofal iechyd sydd wedi arwain at farwolaethau gormodol. Yn rheolaidd, mae’r adroddiadau dadansoddi’n cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch, y Bwrdd Gweithredol a’r Bwrdd Iechyd er mwyn iddynt graffu arnyn nhw. Yn ddiweddar, cafodd adroddiad ei gyflwyno i gyfarfod o’r Bwrdd Iechyd ym mis Tachwedd 2015.

Mae data marwolaethau bras BIP CTM yn parhau i fod yn uchel yn bennaf oherwydd:

  • Diffyg trefniadau eraill o ran gofal diwedd oes i lawer o gleifion cyn marwolaeth (yn 2015, digwyddodd 62.4% o farwolaethau yn ardal Cwm Taf Morgannwg mewn ysbytai o’u cymharu â chyfartaledd Cymru sef 54.6%, fel y’i dangosir yng Nghyfeirnod Dangosyddion Marwolaethau Rhif 20).
  • Y gyfradd uchel ymysg y boblogaeth o gydafiecheddau sy’n gysylltiedig â chyfraddau uchel o dlodi, fel y’i dangosir yng Nghyfeirnod Dangosyddion Marwolaethau Rhif 21. Mae hyn hefyd yn gysylltiedig â’r cyfartaledd o farwolaethau crai fesul 1,000 o’r boblogaeth sy’n uwch na chyfartaledd Cymru, fel y’i dangosir yng Nghyfeirnod Dangosyddion Marwolaethau Rhif 2).

Mae BIP Cwm Taf Morgannwg wedi creu system graffu effeithiol er mwyn monitro diogelwch cleifion a marwolaethau. Mae hyn hefyd yn creu amgylchedd llawn cyfleoedd ar gyfer dysgu amlbroffesiynol sy’n arwain at wella ansawdd gofal. Cyfeiriwyd at y broses hon yn Argymhellion a Chanfyddiadau Cryno Adolygiad Annibynnol yr Athro Stephen Palmer – Argymhelliad Rhif 26 “Roedd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg broses ragorol a hynod amlwg o adolygu nodiadau achos marwolaethau. Mae hyn yn rhoi sicrwydd sylweddol i’r Bwrdd nad yw’r Mynegai Marwolaethau wedi’i Addasu yn ôl Risg (RAMI) yn dangos gofal gwael”. Adroddiad yr Athro Stephen Palmer

Mae dull Cwm Taf Morgannwg o fonitro diogelwch ac ansawdd gofal yn seiliedig ar argymhellion Adroddiad yr Athro Stephen Palmer ac mae’n cynnwys:

  • Sefydlu proses systematig o adolygu marwolaethau
  • Cyflawni gwelliant cynyddol
  • Mae disgwyl i Gwm Taf Morgannwg gyflwyno adroddiadau o berfformiad yn rheolaidd i Lywodraeth Cymru o ran amserlenni’r adolygiadau
  • Monitro a meincnodi marwolaethau sy’n benodol i gyflyrau
  • Cyfranogi mewn archwiliadau cenedlaethol
  • Gwella ansawdd data drwy well ymgysylltu clinigol
 

 

Yn BIP Cwm Taf Morgannwg, dydyn ni ddim yn dibynnu’n unig ar fynegeion marwolaethau a gawn i sôn wrthym ni am ddiogelwch y cleifion sy’n marw yn ein hysbytai.

Fodd bynnag, maen nhw’n ein harwain ni at feysydd o amrywiaeth y mae angen craffu arnyn nhw ac ymchwilio iddyn nhw’n fwy er mwyn pennu p’un a oes methiannau yn narpariaeth y gwasanaeth a/neu a oes modd gwella unrhyw beth. Dydy’r rhain ddim yn disodli’r broses fwy gwerthfawr o archwilio’n fanwl y cofnod clinigol a sut a pham mae claf yn marw yn yr ysbyty. Enw’r broses hon yw adolygu nodiadau achos marwolaethau ac mae dau ddiben iddi. Yn gyntaf, mae’n rhoi sicrwydd bod mwyafrif y marwolaethau i’w disgwyl ac nad oes modd eu hosgoi. Yn ail, mae’n nodi’r meysydd yn ein gwasanaethau lle gallwn ni wella.

Ers mis Ebrill 2013, mae tîm o staff clinigol uwch, gan gynnwys meddygon teulu, arbenigwyr ysbytai a staff nyrsio uwch, wedi adolygu, neu wrthi’n adolygu nodiadau ysbyty pob claf mewnol sy’n marw naill yn Ysbyty’r Tywysog Siarl neu yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Ym mis Ebrill 2014, ehangom ni’r broses hon i gynnwys ysbytai eraill ledled Cwm Taf Morgannwg. Mae ein timau o feddygon a nyrsys yn cefnogi’r broses hon ac yn cymryd rhan ynddi. Ein nod nid yn unig yw atal marwolaethau y gellir eu hosgoi ond atal unrhyw niwed i gleifion, yn enwedig niwed sy’n arwain at anabledd neu ddioddef hirdymor.

Dydyn ni ddim yn dibynnu ar samplu, h.y. yr egwyddor y dylem ni adolygu rhai marwolaethau a pheidio ag adolygu eraill. Proses naturiol i’w disgwyl yw marwolaeth gan amlaf ond rydyn ni’n credu bod pob marwolaeth yn haeddu sylw gan asesiad annibynnol (h.y. gan y staff sydd heb drin y claf yn ystod ei fywyd) er mwyn cynnig y sicrwydd hwnnw. Yn yr un modd, pan fydd pryderon yn codi, rydyn ni’n credu ei bod yn briodol sicrhau ein bod ni mewn sefyllfa i ddysgu unrhyw wersi er mwyn gwella’r gofal rydyn ni’n ei ddarparu i gleifion.

O ran y sicrwydd rydyn ni wedi ceisio ei gael, yn sgil adolygu nodiadau achos marwolaethau, rydyn ni wedi canfod bod mwyafrif helaeth y cleifion sydd wedi marw yn ein hysbytai yn dod at ddiwedd eu bywyd naturiol a’n bod ni’n arbennig o effeithiol wrth gofnodi sgyrsiau’r staff â’r perthnasau ynghylch hyn.

Fodd bynnag, mae’r broses wedi bod yn werthfawr o ran tynnu sylw at feysydd lle gallem ni wella’r gofal rydyn ni’n ei ddarparu yn ogystal â dysgu gwersi. Er enghraifft, rydyn ni wedi rhoi mesurau mwy effeithiol ar waith i leihau risg cleifion o ddatblygu clotiau gwaed a heintiadau sylweddol yn ystod eu harhosiad yn yr ysbyty. Yn y nifer fach o achosion lle y canfuom, er enghraifft, dystiolaeth o oedi yn y cyfathrebu rhwng y staff neu oedi yn y driniaeth, rydyn ni wedi hysbysu’r uwch feddyg neu nyrs sy’n gyfrifol er mwyn cael eglurhad a thystiolaeth o ddysgu at ddibenion gwella.

Yn fwy cyffredinol, mae BIP Cwm Taf Morgannwg hefyd yn casglu ac yn craffu ar amrywiaeth eang o fesurau diogelwch gwrthrychol i lywio ein cynllun gwella ansawdd. Ymhlith yr enghreifftiau mae:

  • Cyfraddau heintiadau: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg sydd gyda’r gyfradd isaf o heintiadau C Difficile yng Nghymru
  • Bu gwelliant cyson dros y ddwy flynedd ddiwethaf o ran cyfraddau marwolaethau yng Nghwm Taf Morgannwg yn sgil trawiad ar y galon, strôc, torri asgwrn y glun a marwolaethau crai mewn ysbytai. Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnydd a wnaed wrth ddatblygu’r uned strôc, gwella llwybrau gyda byrddau iechyd cyfagos a phrosesau gwella ansawdd. Mae’r gwasanaethau hyn yn parhau i fod yn destun monitro a chraffu er mwyn hwyluso rhagor o brosesau gwella ansawdd.
  • Cyfraddau wlserau pwyso: rydyn ni wedi gwneud gwelliant sylweddol yn y fethodoleg ar gyfer cofnodi achosion o ddatblygiad wlserau pwyso a gwella’r driniaeth ohonyn nhw.

Ynghyd â mynegeion marwolaeth ac adolygu nodiadau achos marwolaethau, mae’r gyfres hon o wybodaeth yn rhoi darlun llawer mwy ystyrlon i ni o ddiogelwch ac ansawdd y gofal iechyd rydyn ni’n ei ddarparu i’r cleifion sy’n cael eu derbyn i’n hysbytai.

Gweler rhagor o fanylion ein gwaith gwella ansawdd yn ein Datganiad Ansawdd Blynyddol

Mae’r Adroddiad Mesur Anghydraddoldeb (2016) yn dangos bod y boblogaeth yng Nghymru gyfan yn byw’n hwy ac yn byw’n iach yn hwy. Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn dangos nad oes unrhyw arwydd fod y gwahaniaeth ar lefel genedlaethol rhwng disgwyliad oes ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig Cymru yn lleihau. Enw hwn yw’r mynegiad anghydraddoldeb goleddol (SII).(1)

Mae’r graff uchod yn cymharu disgwyliad oes a disgwyliad oes iach Cwm Taf Morgannwg. Mae’n dangos cymhariaeth rhwng y cyfnod rhwng 2005 a 2009 a’r cyfnod rhwng 2010 a 2014 a’r amrywiad yn y mynegai anghydraddoldeb goleddol (SII).  Yng Nghwm Taf Morgannwg, mae’n gadarnhaol iawn gweld bod disgwyliad oes a disgwyliad oes iach (2010-2014) wedi gwella ers yr adroddiad blaenorol (2005-2009). Mae’r bwlch anghydraddoldeb rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig wedi lleihau ar draws yr holl baramedrau ac nid yw hyn i’w weld mewn rhannau eraill o Gymru. Fodd bynnag, rydyn ni’n parhau i fod o dan gyfartaledd Cymru ac o dan ddisgwyliad oes Rhondda Cynon Taf ac mae’r bwlch anghydraddoldeb wedi cynyddu ers yr adroddiad blaenorol o 7.4 blynedd i 7.8 blynedd. Mae’r rhain yn dangos yr amrywiadau yng Nghwm Taf Morgannwg.

  • Mae Cwm Taf Morgannwg yn gwasanaethu’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru ac mae cyfran fawr o’i boblogaeth yn bobl hŷn sy’n dioddef o gyflyrau hirdymor sydd yn aml yn gyflyrau niferus a chymhleth.
  • Mae’r amddifadedd a’r cydafiecheddau cysylltiedig ar eu mwyaf ym Merthyr Tudful ac yn Rhondda Cynon Taf (gyda Blaenau Gwent), fel y’i dangosir yn nangosydd marwolaethau 21.
  • Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful (ynghyd â Chastell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr) sydd gyda’r disgwyliad oes isaf adeg genedigaeth ac mae hynny’n fwy amlwg ymysg merched, fel y’i dangos yn nangosydd marwolaethau 1.
  • Caiff cyfran fwy o gleifion eu derbyn a’u trin fel argyfwng yn ysbytai Cwm Taf Morgannwg (yn hytrach na bwriadu dod i’r ysbyty). Mae llawer o’r derbyniadau hyn yn debygol o adlewyrchu difrifoldeb eu cyflwr a’r dirywiad ynddo.
  • Yn ogystal â hynny, mae canran y bobl sy’n marw yn yr ysbyty o’i chymharu â gartref neu mewn cartref gofal yn fwy ymysg poblogaeth Cwm Taf Morgannwg ac mae hyn wrth wraidd ffigurau marwolaethau crai BIP Cwm Taf Morgannwg. Yn aml, mae hyn yn fater o ddiwylliant a/neu ddewis cyfyngedig o ran mynd i’r ysbyty fel rhan o’u gofal diwedd oes. Mae hyn i’w weld yn nangosydd marwolaethau 20.

Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru (2016) Mesur Anghydraddoldebau 2016 – Tueddiadau mewn marwolaeth a disgwyliad oes yng Nghymru.

Mae Cymdeithas yr Arsyllfeydd Iechyd Cyhoeddus wedi creu dogfen friffio dechnegol ddefnyddiol iawn o’r enw ‘Dying to Know’, sy’n cynnwys gwybodaeth bellach am ddehongli data marwolaethau. Gweler y ddolen hon.