Neidio i'r prif gynnwy

Asesiad o Anghenion Fferyllol (AAFf)

Gwnaeth Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 hi’n ofynnol i Fyrddau Iechyd Lleol lunio Asesiad o Anghenion Fferyllol (AAFf), ac mae’n ofynnol cyhoeddi’r Asesiad cyntaf erbyn 1 Hydref 2021.

Effaith arfaethedig AAFf yw hybu dealltwriaeth o anghenion fferyllol ein poblogaeth leol a defnyddio hyn i wella'r gwaith o gynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau fferyllol. Nodi lle gallai fod angen mangre ychwanegol ar gyfer contractiwr (contractiwr fferyllol a chontractiwr cyfarpar), nodi lle mae angen rhagor o feddygon fferyllol i ddiwallu angen a nodwyd a hefyd i bennu lle mae contractwyr presennol yn diwallu’n ddigonol anghenion fferyllol.

Mae Datganiad Atodol yn cofnodi newidiadau i'r ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol ers cyhoeddi'r Asesiad o Anghenion Fferyllol. Cyhoeddir Datganiadau Atodol ar gyfer fferyllfeydd sy’n agor neu’n cau, neu pan fydd newidiadau i asesiadau o anghenion fferyllol sy'n fach ac a fyddai'n berthnasol wrth gymeradwyo ceisiadau. Ar ôl ei gyhoeddi, daw datganiad atodol yn rhan o'r AAFf.

Bydd yr Asesiad yn cael ei gyhoeddi erbyn 1 Hydref 2021 a bydd yn berthnasol am uchafswm o 5 mlynedd. Mae ar gael yn y Gymraeg.