Neidio i'r prif gynnwy

WISE yn dathlu Diwrnod Presgripsiynu Cymdeithaso

WISE yn cefnogi Diwrnod Presgripsiynu Cymdeithasol Cenedlaethol gyda chyhoeddiad am ddau ap iechyd digidol newydd
Mae’r Gwasanaeth Gwella Lles (WISE) yn dathlu Diwrnod Presgripsiynu Cymdeithasol Cenedlaethol gyda chyhoeddiad am ddwy bartneriaeth apiau gofal iechyd digidol newydd cyffrous.
 

Mae’r bartneriaeth gyntaf gyda’r Sefydliad ar gyfer Adolygu Apiau Gofal ac Iechyd - ORCHA. Mae ORCHA, sy’n un o gwmnïau adolygu a dosbarthu apiau mwyaf blaenllaw’r byd, eisoes wedi creu llyfrgelloedd apiau ar gyfer 70% o ymddiriedolaethau’r GIG, byrddau iechyd a sefydliadau eraill yn y DU.

Bydd cleifion ar restrau aros gofal eilaidd penodol, a fydd yn cael eu cefnogi gan y Gwasanaeth Gwella Lles (WISE) o fis Ebrill 2022, yn cael mynediad personol i lyfrgell gofal iechyd digidol wedi’i theilwra, diolch i’r bartneriaeth newydd hon.

Mae’r ail bartner, Elemental Software, yn gwmni llwyddiannus ym maes meddalwedd presgripsiynu cymdeithasol, y mae ei dechnoleg yn cael ei defnyddio ym maes iechyd a lles cymunedol i rymuso a galluogi unigolion i gysylltu'n well â rhaglenni, gwasanaethau ac ymyriadau gofal iechyd yn y gymuned.

Drwy fabwysiadu platfform digidol Elemental, bydd WISE yn gallu helpu cleifion i gael mynediad at nifer o gyfleoedd i wella eu canlyniadau iechyd corfforol a meddyliol; hyrwyddo lles; a helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd ar draws poblogaeth ranbarthol y Bwrdd Iechyd.

Mae defnyddio adnoddau digidol i ategu gofal iechyd wyneb yn wyneb yn dod yn arfer cyffredin, gan rymuso dinasyddion i reoli eu hiechyd eu hunain, a helpu i leihau gwariant y GIG. Mae apiau iechyd yn cael eu defnyddio fwyfwy i gefnogi cleifion a defnyddwyr gwasanaeth sydd â chyflyrau hirdymor fel canser a diabetes, a gyda newidiadau i’w ffordd o fyw fel rhoi’r gorau i ysmygu a rheoli deiet.

Meddai Liza Thomas-Emrus, Clinigydd Arweiniol gyda WISE: “Gan ystyried ein hethos holistaidd o ran meddygaeth ffordd o fyw yn WISE, a’r cynnydd cyflym yn y defnydd o apiau presgripsiynau cymdeithasol yng Nghymru, rydyn ni’n gyffrous iawn am y bartneriaeth fydd gennym â'r arbenigwyr iechyd digidol yn ORCHA ac Elemental.

“Mae ein tîm yn ystyried bod apiau iechyd a gofal yn gam hanfodol ar y daith i ddull gofal iechyd hunanreoli sy’n canolbwyntio mwy ar y claf – rhywbeth sy’n agos at ein calonnau ni.

“Bydd apiau presgripsiynu cymdeithasol hefyd yn ein helpu ni i oresgyn yr heriau rydyn ni’n ein hwynebu ar hyn o bryd yn BIP Cwm Taf Morgannwg yn sgil y pandemig, ac, yn y dyfodol, yn darparu dull gofal iechyd amgen i'n poblogaeth wrth i’w disgwyliad oes gynyddu ac wrth i bobl ddatblygu mwy o gyflyrau hirdymor.”

Mae ORCHA yn adolygu apiau iechyd yn erbyn 350 o safonau llym, gan gynnwys elfennau o fframwaith NICE – a dim ond apiau sy’n cyflawni sgôr o dros 65% ar gyfer sicrwydd clinigol, preifatrwydd data a defnyddioldeb fydd yn cael eu cynnwys yn ei lyfrgelloedd apiau. Bydd adolygiad arall yn cael ei gynnal bob tro y bydd ap yn cael ei ddiweddaru, fel bod y safonau'n cael eu cynnal.

Edrychwch ar wefan Elemental yn https://elementalsoftware.co/

Edrychwch ar wefan ORCHA yn https://orchahealth.com

Edrychwch ar wefan CTM WISE ORCHA yn https://ctmwise.orcha.co.uk