Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Gofal y Cymalau

Rhaglen Gofal y Cymalau

 Rhaglen Gofal y Cymalau - Gwybodaeth i Gleifion (PDF, 4.3Mb)

Rhaglen Gofal y Cymalau - Gwybodaeth i Gleifion

 Rhaglen Gofal y Cymalau - Poster (PDF, 1.1Mb)

Rhaglen Gofal y Cymalau - Poster

Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda
Dyddiad cychwyn Amser
04/04/2023 10:00yb
04/04/2023 13:00pm
04/07/2023 10:00yb
04/07/2023 13:00pm
04/10/2023 10:00yb
04/10/2023 13:00pm
16/01/2024 10:00yb
16/01/2024 13:00pm
19/01/2024 10:00yb
   
Canolfan Hamdden Llantristant
Dyddiad cychwyn Amser
06/04/2023 10:00yb
06/07/2023 10:00yb
05/10/2023 10:00yb
18/01/2024 10:00yb
15/01/2024 13:00pm
   
Canolfan Hamdden Tonyrefail
Dyddiad cychwyn Amser
06/04/2023 13:00pm
06/07/2023 13:00pm
05/10/2023 13:00pm
18/01/2024 13:00pm
   
Canolfan Hamdden Sobell
Dyddiad cychwyn Amser
05/04/2023 11:00yb
05/07/2023 11:00yb
04/10/2023 11:00yb
17/01/2024 11:00yb
19/01/2024 13:00pm
   
Canolfan Hamdden y Ddraenen Wen
Dyddiad cychwyn Amser
03/04/2023 18:00pm
03/07/2023 18:00pm
02/10/2023 18:00pm
15/01/2024 18:00pm

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Gwella Lles (WISE), wedi datblygu'r Rhaglen Gofal y Cymalau, sy'n rhaglen 12 wythnos yn y gymuned wedi'i thargedu at gleifion sydd dros eu pwysau ac sydd â phoen cronig yn eu pen-glin a/neu eu clun.

Bydd y rhaglen yn eu cefnogi i golli pwysau, cynyddu lefelau gweithgarwch a gwella eu hiechyd a'u lles cyffredinol. Bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn addysg maeth, dosbarthiadau coginio yn ogystal â sesiynau ymarfer corff effaith isel. 

Mae modd cael eich atgyfeirio at y Rhaglen Gofal y Cymalau drwy eich meddyg teulu, ffisiotherapydd, deietegydd, neu unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig.

Ar ôl i weithiwr gofal iechyd proffesiynol roi sêl bendith ar y ffurflen, byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn neu'r drwy’r post i wneud apwyntiad i chi gwrdd â'ch gweithiwr ymarfer corff proffesiynol.

Yn ystod eich ymweliad cyntaf, bydd eich gweithiwr ymarfer corff proffesiynol yn cwrdd â chi i gael gwybod mwy am hanes eich iechyd, cynnal gwiriadau iechyd sylfaenol a thrafod pa weithgareddau sy’n addas i chi.

Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan weithwyr ymarfer corff proffesiynol hyfforddedig, (manylion isod) a chânt eu cefnogi gan Dîm Iechyd Cyhoeddus CTM a deietegwyr iechyd cyhoeddus.

  • Magu ffordd iachach o fyw er mwyn lleihau’r risg o ddatblygu rhagor o gyflyrau iechyd
  • Cyfle gwych i gymdeithasu a chwrdd â llawer o bobl newydd
  • Gwella eich gallu i symud a gweithrediad eich cymalau
  • Dod i wybod mwy am faeth
  • Dysgu sut i greu ryseitiau syml a blasus gyda chynhwysion ffres
  • Teimlo'n iachach ac yn fwy hyderus
  • Gall gwneud mwy o weithgareddau a chyrraedd pwysau iachach wella eich iechyd a’ch lles.
  • Mae gan y rhaglen y potensial i oedi llawdriniaeth ar y cymalau neu ei hosgoi yn gyfan gwbl.
  • Bydd yn eich helpu i wella ar ôl cael llawdriniaeth ar y cymalau os bydd angen ar ôl y rhaglen.

Dywedodd Rebecca Rees, Tiwtor Rhaglen Gofal y Cymalau: “Mae cyflwyno'r Rhaglen Gofal y Cymalau yn rhoi boddhad mawr i mi.  Rydw i’n mwynhau bod yn rhan o daith y claf a'i gefnogi i gyflawni ei amcanion”.

Ar ddiwedd y rhaglen byddwch yn cael eich gwahodd i apwyntiad dilynol er mwyn trafod eich cynnydd, a’ch anghenion o ran ymarfer corff yn yr hirdymor. Yn ogystal â hynny, bydd adroddiad ynglŷn â'ch cynnydd a'ch canlyniadau'n cael ei anfon at yr unigolyn a wnaeth eich cyfeirio.

Mae'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) hefyd ar gael ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Unwaith y byddwch wedi cwblhau Rhaglen Gofal y Cymalau, mae opsiwn gyda chi i ymuno â chynllun NERS os ydych yn dymuno, a bydd gyda chi’r opsiwn i ddefnyddio cyfleusterau eich canolfan hamdden leol am bris is.

Mae rhaglenni Get Cooking hefyd ar gael i gefnogi newid ymddygiad parhaus gydag arferion siopa, coginio a bwyta. Ewch i: https://bipctm.gig.cymru/gwasanaethau/deietegwyr-iechyd-y-cyhoedd/ i weld pa wasanaethau cymorth eraill sydd ar gael ac i archebu eich hun yn uniongyrchol ar raglen.

Os hoffech wybod mwy am Raglen Gofal y Cymalau, cysylltwch â chydlynwyr y rhaglen neu unrhyw un o'r tîm isod, neu ewch i: https://bipctm.gig.cymru/gwasanaethau/rhaglen-gofal-y-cymalau/

Os ydych yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol a hoffech gyfeirio claf i'r Rhaglen Gofal ar y Cyd, ewch i: Raglen Gofal y Cymalau (Sharepoint)

Carla Jackson – Cydlynydd Atgyfeirio Rhaglen Gofal y Cymalau ym Merthyr
Ffôn: 07709719745
E-bost: carla.jackson@merthyr.gov.uk

Luke Foxwell – Cydlynydd Atgyfeirio RhCT
Ffôn: 07384537292
E-bost: Luke.Foxwell@rctcbc.gov.uk

Stuart Mitchell – Cydlynydd Atgyfeirio Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 678862
E-bost: stuart.mitchell@haloleisure.org.uk

Manylion cyswllt Iechyd Cyhoeddus Cymru CTM:
Rachel Reed (Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus Cymru)
E-bost: Rachel.Reed@wales.nhs.uk

Manylion cyswllt deietegydd CTM:
Jade Baxter (Deietegydd Iechyd Cyhoeddus)
E-bost: CTT_dietetics_public-health@wales.nhs.uk