Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Genedlaethol Gordewdra - Trosolwg

Mae BIP CTM yn nodi Wythnos Genedlaethol Gordewdra 2025 (10fed – 16eg Ionawr).

Datgelodd adroddiad diweddar a gafodd ei ryddhau gan CTM fod gan BIP CTM rai o'r lefelau uchaf o ordewdra ymhlith oedolion a phlant yng Nghymru.

Mae tua dau o bob tri oedolyn mewn CTM dros ei bwysau neu’n ordew, ac mae tua un o bob tri yn byw gyda gordewdra.

Mewn llawer o'n cymunedau mae'n anodd cael mynediad at fwyd o ansawdd da neu gyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol, sy'n ei gwneud hi'n anodd cadw pwysau iach.

Mae mwy na 31,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes. Gellid bod wedi atal tua hanner y rhain gyda'r cymorth cywir i gyrraedd pwysau iach, diet gwell a mwy o weithgarwch corfforol.

Karen Reid, Dietegydd Iechyd Cyhoeddus tra Arbenigol yn CTM: “Er bod angen i ni weithio i wella ein hamgylchedd i’w gwneud hi’n haws i bobl fod gyda pwysau iach, mae llawer o wahanol offer ac adnoddau ar gael i gefnogi unrhyw un sy’n barod i gymryd eu camau eu hunain tuag at bwysau iach.”

Ymchwil GetFit CTM

Mae bod yn actif a threulio amser yn yr awyr agored yn cael ei brofi i wella hwyliau a chysgu, tra hefyd yn lleihau straen, gorbryder ac iselder. Er mwyn helpu i hybu'r cymhelliant sydd ei angen weithiau i fynd ati, rydym yn lansio ymgyrch CTM i gael ein poblogaeth CTM i symud beth sy'n cyfateb i Ferthyr i Ben-y-bont ar Ogwr (75,000 camau/symudiadau) dros gyfnod o dair wythnos (10fed - 31ain Ionawr).

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Deietegwyr Iechyd Cyhoeddus CTM

Mae tîm Dietegwyr Iechyd Cyhoeddus CTM yn cynnal amrywiaeth o raglenni hyfforddiant maeth rhyngweithiol i’r staff ac i weithwyr cymunedol, a’r cyfan wedi’u hachredu gan Agored Cymru.

Mae’r tîm yn darparu cymorth parhaus ar gyfer datblygu a chynnal mentrau cymunedol ar ôl hyfforddiant, a hynny er mwyn hybu iechyd a lles y boblogaeth, yn benodol y bobl fwyaf difreintiedig ac agored i niwed yn ein cymunedau.

Mae rhaglenni Sgiliau Maeth am Oes ar gael i amrywiaeth eang o weithwyr cymunedol gan gynnwys y rheiny sy’n gweithio yn y maes iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector, yn ogystal â gwirfoddolwyr ac addysgwyr i gymheiriaid. Mae’r rhain yn eu galluogi nhw i hyrwyddo bwyta’n iach ac atal diffyg maeth ar lefel gymunedol.

Mae’r tîm hefyd yn cynnig ystod o wasanaethau cymunedol, gan gynnwys:

Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol

Bydd rhaglenni Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol yn eich helpu i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau bwyd trwy ddysgu mwy am fwyta'n iach, manteision maeth da i iechyd, creu prydau cytbwys a chynllunio bwydlenni iach.

Llyfr Ryseitiau Sgiliau Maeth am Oes

https://bipctm.gig.cymru/gwasanaethau/deietegwyr-iechyd-y-cyhoedd/ryseitiau/llyfr-ryseitiau-sgiliau-maeth-ar-gyfer-bywyd-pdf/

Wedi’u creu gan ddietegwyr a gweithwyr cymorth sy’n cyflwyno cyrsiau Sgiliau Maeth am Oes ledled Cymru.

Ap Bwyd Doeth am Oes

Mae’r ap rhad ac am ddim hwn, a ddatblygwyd gan weithwyr proffesiynol GIG Cymru wedi’i gynllunio i ddarparu hyn i gyd, a mwy. Mae'n dod â chyngor maeth a phwysau iach y gallwch ymddiried ynddo i'ch cefnogi trwy'ch taith colli pwysau.

Gallwch lawrlwytho Ap Sgiliau Maeth am Oes o Apple Store a Google Play.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Bwyd a Hwyl

Rhaglen wedi’i hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru, wedi’i lleoli mewn ysgolion am 12 diwrnod dros wyliau’r haf gyda sicrwydd ansawdd gan Ddietegwyr Iechyd y Cyhoedd. Mae ar gael i ysgolion gyda dros 16% o ddarpariaeth Prydau Ysgol am Ddim ac fe'i cefnogir gan ystod o bartneriaid lleol a chenedlaethol.

Rhaglen Gofal y Cymalau

Rhaglen ddeuddeg wythnos yn y gymuned wedi'i hanelu at bobl sydd dros eu pwysau neu’n ordew. Mae'r rhaglen yn cefnogi pobl i golli pwysau, trwy gynyddu lefelau gweithgarwch, arddangosiadau coginio ymarferol a chyngor dietegol. Mae pobl sy'n mynychu wedi gwella poen cronig yn y glun a'r pen-glin, lleihau eu risg o boen yn y cymalau a gwella eu hiechyd a'u lles cyffredinol.  

Prosiect PIPYN CTM

Wedi’i lansio ym mis Ebrill 2023, dechreuodd rhaglen PIPYN fel rhaglen beilot ym Merthyr a chafodd ei lansio i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw ac i gefnogi plant a theuluoedd i fyw bywydau iachach a mwy actif.

Bellach yn rhedeg ym Merthyr Tudful, Rhondda a Thaf Elái, mae tîm PIPYN yn gweithio gyda phlant rhwng 3-7 oed, gan helpu eu teuluoedd i gael cymorth am ddim. Gallwch ddarganfod mwy yma.

 

 

 

 

Llyfr Ryseitiau Sgiliau Maeth am Oes

Llyfr ryseitiau wedi'i greu gan ddietegwyr a gweithwyr cymorth sy'n cyflwyno cyrsiau Sgiliau Maeth am Oes ledled Cymru.

Pwysau Iach, Byw’n Iach - Cymru

Mae’r wefan hon yn cynnig mynediad am ddim i wybodaeth, cymorth ac adnoddau ar:

  • Deall pwysau a'ch taith rheoli pwysau
  • Bwyd a Diod
  • Gweithgarwch Corfforol
  • Iechyd a Lles Emosiynol
  • Gwneud newid ymddygiad hirdymor

Fideos Ymarfer Corff Stiwdio Ffitrwydd y GIG

Amrywiaeth o fideos ymarfer corff dan arweiniad hyfforddwr, gan gynnwys ymarferion aerobig, hyfforddiant cryfder a gwrthiant, pilates ac ioga.

Byw’n Iach y GIG

Cyngor y GIG ar fyw'n iach, gan gynnwys bwyta diet cytbwys, pwysau iach, ymarfer corff, rhoi'r gorau i ysmygu ac yfed llai o alcohol.

Bwyta'n Iach y GIG

Gwybodaeth ac arweiniad y GIG ar fwyta diet iach a chytbwys.

Pantris Bwyd, Banciau Bwyd a Help gyda Chostau Byw

Gyda chostau byw ar gynnydd a gwariant yn ymddangos yn anoddach, gallwch ddod o hyd i wybodaeth a chysylltu â'ch banc bwyd lleol, pantri neu gydlynydd lles trwy glicio yma

Mae yna hefyd nifer o apiau ar gael o'ch ‘app store’ a allai eich cefnogi gyda'ch taith ffitrwydd:

  • NHS Weight Loss Plan
  • NHS Couch to 5K
  • NHS Active 10 Walking Tracker
  • NHS Food Scanner
  • Diwrnodau Heb Yfed y GIG
  • NHS Quit Smoking
  • Foodwise for Life

14/01/2025