Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Atal Cwympiadau: 21 - 25 Medi 2026

Gall unrhyw un gwympo, ond wrth i bobl heneiddio, mae’n fwy tebygol o ddigwydd - yn enwedig os oes ganddyn nhw broblemau symudedd.

Os yw rhywun mewn perygl o gwympo, gall rhai newidiadau i'w ffordd o fyw ei helpu i osgoi anafiadau a hybu hyder ac annibyniaeth.

Yr Wythnos Atal Cwympiadau hon, bydd gwasanaeth Peidiwch â Chwympo Amdani CTM yn cynnig cyfres o gyfleoedd am ddim ledled Cwm Taf Morgannwg, wedi'u cynllunio i helpu unrhyw un a allai fod yn poeni am gwympo, neu sydd â diddordeb mewn dysgu mwy ar ran aelod o'r teulu neu ffrind, i ddod draw a chael rhywfaint o wybodaeth.

Dyma amserlen isod o ble bydd ein timau yn ystod yr wythnos a sut allwch chi gwrdd â'n harbenigwyr cwympiadau.

Dydd Llun
21ain Medi
Dydd Mawrth
22ain Medi
Dydd Mercher
23ain Medi
Dydd Iau
24ain Medi
Dydd Gwener
25ain Medi

11yb - 3yp
Canolfan Hamdden Rhondda Fach,
Rhondda, CF43 3HR

Mae poster y digwyddiad i'w weld yma.

1.30yp - 3yp
Pentref Hamdden Rhydycar,
Merthyr Tudful,
CF48 1UT 

10yb - 2yp

Digwyddiad "Sefyll i Fyny
yn Erbyn Cwympiadau"
Canolfan Gymunedol,
Bryntirion a Threlales CF31 4EF

Mae poster y digwyddiad i'w weld yma.

9.30yb - 12.30yp
Pentref Hamdden Rhydycar,
Merthyr Tudful, CF48 1UT

1yp - 4yp
Ysbyty'r Tywysog Siarl,
Cyntedd Lifft, CF47 9DT

1yp - 4yp
Ysbyty Tywysoges Cymru,
(wrth y Siop Bapurau Newydd),
CF31 1RQ

9.30yb - 11.30yb
Cynon Linc, Aberdâr,
CF44 7BD

2.30yp - 4yp
Canolfan Gymunedol Dowlais,
CF48 3LP

11yb - 3yp
Canol Tref Pontypridd,
Gyferbyn â Specsavers

2yp - 4yp
Parc Iechyd Keir Hardie,
CF48 1BZ

Yn ymarferol...

Yn gynharach eleni, atgyfeiriodd David, 80 oed, o'r Rhondda, ei hun at y gwasanaeth gan ei fod yn cwympo'n ddyddiol ac yn dibynnu ar ei wraig i'w helpu i symud o gwmpas.

Ymunodd David â Chwrs Atal Cwympiadau 12 wythnos a gosododd ei nodau i leihau ei ofn o gwympo a gwella ei gydbwysedd i wneud tasgau bob dydd yn haws.

Yn ystod y cyfnod hwn, gwelodd David welliant amlwg, a hyd yn oed gwnaeth ffrindiau yn y dosbarth yr oedd yn edrych ymlaen at eu gweld bob wythnos. Darllenwch fwy am ei stori yma.

Os na allwch fynychu un o'r sesiynau uchod i siarad â'n harbenigwyr cwympiadau, ond bod gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy, atgyfeiriwch eich hun at y Gwasanaeth Peidiwch â Chwympo Amdani! trwy ffonio 01443 715013, neu anfonwch e-bost at y tîm ar ctm.dontfallforit@wales.nhs.uk.

14/09/2026