Gall unrhyw un gwympo, ond wrth i bobl heneiddio, mae’n fwy tebygol o ddigwydd - yn enwedig os oes ganddyn nhw broblemau symudedd.
Os yw rhywun mewn perygl o gwympo, gall rhai newidiadau i'w ffordd o fyw ei helpu i osgoi anafiadau a hybu hyder ac annibyniaeth.
Un o'r ffyrdd hynny yw trwy gyrsiau Atal Codymau; cyfres o ddosbarthiadau sydd wedi'u cynllunio i gefnogi pobl sydd mewn perygl o gwympo gyda hyfforddiant cryfder a chydbwysedd.
Gwnaeth David Lewis, 80, o’r Rhondda, atgyfeirio ei hun at y Gwasanaeth “Peidiwch â Chwympo Amdani!” BIP CTM. Argymhellodd Therapyddion Galwedigaethol y gwasanaeth iddo ar ôl i'w symudedd ddirywio'n gyflym ddwy flynedd yn ôl. Mae gan David spina bifida ac osteoarthritis difrifol, ac roedd yn cwympo bob dydd, gan ddibynnu ar ei wraig i’w helpu i symud o gwmpas.
Gwaethygodd ofn David o gwympo ar ôl dau gwymp difrifol tra ar wyliau. Wrth ymuno â'r Cwrs Atal Codymau, gosododd nodau i leihau ei ofn o gwympo a gwella ei gydbwysedd er mwyn gwneud tasgau bob dydd yn haws.
Ar ôl mynychu dosbarthiadau wythnosol am 10 wythnos yng Nghanolfan Hamdden Rhondda Fach yn Nhylorstown, mae David wedi gweld gwelliant amlwg yn ei gydbwysedd ac mae bellach yn gallu codi pethau o'r llawr yn annibynnol ac yn hawdd. Mae hefyd wedi sylwi ar welliant yn ei stamina ac mae'n teimlo'n fwy hyderus wrth fynd allan.
Wrth siarad am ei brofiadau, dywedodd David: “Rwy’n argymell y Cwrs Atal Codymau 100% i unrhyw un sy’n ofni cwympo. Rydw i wedi mwynhau pob sesiwn ac mae gweld y gwelliannau i fy mywyd wedi bod mor werth ei wneud. Fe wnes i ffrindiau yn y dosbarthiadau hefyd ac roeddwn i'n edrych ymlaen at fynychu bob wythnos i'w gweld nhw.”
Mae'r cyrsiau Atal Codymau hefyd yn cynnwys trafodaeth addysgol ar ddiwedd pob dosbarth. Maen nhw’n canolbwyntio ar bwnc gwahanol bob wythnos sy'n ymwneud â ffactorau risg cwympiadau a gwella ansawdd eich bywyd.
I hunanatgyfeirio at y Gwasanaeth ‘Peidiwch â Chwympo Amdani!’ ffoniwch, 01443 715013 neu anfonwch e-bost at y tîm ar ctm.dontfallforit@wales.nhs.uk.
15/04/2026