Mae'r Rhaglen Gofal y Cymalau yn rhaglen wedi'i theilwra er mwyn gwella symudedd a gweithrediad pobl sydd â phoen yn y pen-glin neu boen yn y glun. Mae'r rhaglen yn darparu gwybodaeth am fwyta'n iachach sy’n cynnwys pynciau sy’n edrych ar fwyta'n dda, maint dognau, cyfnewid bwydydd a diodydd iach, delio â chwantau, labeli bwyd a goresgyn rhwystrau. Enw'r rhan hon o'r rhaglen yw Bwyd Doeth am Oes. Mae sesiynau coginio rhyngweithiol (Dechrau Coginio) hefyd wedi'u cynnwys ochr yn ochr â sesiynau ymarfer corff llai heriol. Y nod yw i gleifion wella eu symudedd a gweithrediadau eu cymalau i leihau'r angen am lawdriniaeth ar y cymalau ac os oes yn dal i fod angen llawdriniaeth, bydd y rhaglen yn rhoi cymorth i helpu adferiad.
Ceir rhagor o ddolenni i'r rhaglenni y cyfeirir atynt uchod yn y dolenni canlynol: