Rhoi'r gorau i ysmygu yw'r newid pwysicaf y gallwch chi ei wneud i wella eich iechyd.
Dydy hi byth yn rhy hwyr i stopio.
Os ydych chi'n barod i newid pethau, rydyn ni yma i helpu. Rydych chi’n llawer mwy tebygol o stopio am byth gyda chymorth gwasanaeth rhad ac am ddim Helpa Fi i Stopio’r GIG yng Nghymru. Gallwn eich rhoi chi mewn cysylltiad gyda nhw yn ystod eich gwiriad iechyd yr ysgyfaint, neu gallwch chi hunangyfeirio ar-lein neu dros y ffôn.
www.helpafiistopio.cymru / RHADFFÔN: 0800 085 2219