Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsio Ysgol

Beth mae'r Gwasanaeth Nyrsio Ysgol yn ei wneud?

Mae’r gwasanaeth nyrsio ysgol yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o hyrwyddo a chefnogi iechyd a lles plant oed ysgol rhwng 5 ac 16 oed gan gynnwys chweched dosbarth ac ysgolion arbennig, i’w helpu i gyrraedd eu llawn botensial yn ystod eu blynyddoedd oed ysgol a tu hwnt.

Rydym yn gwneud hyn drwy ddarparu un gwasanaeth i blant a phobl ifanc mewn ysgolion. Gallwn hefyd ddarparu cyngor a chymorth ychwanegol neu gyfeirio at wasanaethau eraill i’r plant, y bobl ifanc hynny a’u teuluoedd lle bo angen.

Pwy yw eich tîm Nyrsio Ysgol?

Mae nyrsys ysgol yn nyrsys cofrestredig gyda chymhwyster ychwanegol mewn Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol, a gefnogir gan dîm o nyrsys imiwneiddio cymwys, gweithwyr cymorth gofal iechyd a staff gweinyddol. Maen nhw'n cymryd drosodd y gofal o blant gan eu Hymwelydd Iechyd, unwaith maen nhw wedi troi'n 5 oed.

Ble rydyn ni'n darparu ein gwasanaeth?

Mae ein timau Nyrsio Ysgol wedi’u lleoli mewn lleoliadau fel meddygfeydd neu ysbytai ar draws y bwrdd iechyd, ond yn teithio o amgylch eu cymunedau yn cefnogi plant a phobl ifanc, lle bynnag y bo’r angen. Mae ein gwasanaeth ar gael rhwng 8:30 a 4:30 o ddydd Llun i ddydd Gwener trwy gydol y flwyddyn, ac eithrio gwyliau banc.

Os hoffech gyngor neu gefnogaeth gan ein tîm, gallwch holi drwy ysgol eich plentyn neu gysylltu â’n tîm ar y manylion cyswllt isod.

Arweinwyr Tîm

Merthyr, Cynon a Rhondda : 01443 443443 est. 75303/01685 351322
Pen-y-bont ar Ogwr a Thaf: 01656 753491/01443 443443 est. 75303

Tîm Merthyr Tudful

Ffôn: 01685 351313, 351314, 351315,

351316, 351317, 351318

Tîm Cwm Cynon

Ffôn: 01443 715265, 715065, 715260

Tîm Taf

Ffôn: Pontypridd 01443 443443 est.

72341, 72340, 72354

Tîm Rhondda a Thaf Elái

Ffôn: Tylorstown 01443 732072 Ffôn: Gilfach Goch 01443 670954

Tîm Pen-y-bont ar Ogwr

Ffôn: 01656 753759, 753744, 753745, 753752, 753742, 753738, 753739

 

 

Dilynwch ni: