Gwybodaeth am Ymweliadau i'r Uned Mamolaeth
Croeso i Famolaeth BIP CTM
Er mwyn sicrhau diogelwch ein staff a’n cleifion wrth ddarparu’r gofal gorau posibl, rydym yn gofyn yn garedig i ymwelwyr gadw at y canllawiau canlynol.
Cyn yr enedigaeth, ar ôl yr enedigaeth a phrysuro'r geni
- Gall un partner geni enwebedig aros gyda chi rhwng 9am a 10pm bob dydd.
- Yn ogystal â'ch plant (brodyr a chwiorydd y babi) mae croeso i chi gael hyd at ddau ymwelydd sy’n oedolion rhwng 2pm - 4pm a 6pm - 8pm.
Partneriaid Geni yn ystod y Cyfnod Esgor
- Gallwch gael dau bartner geni enwebedig gyda chi yn ystod y cyfnod esgor, y geni ac yn syth ar ôl i chi rhoi genedigaeth pan fydd eich gofal yn cael ei ddarparu mewn ystafell enedigaeth sengl.
- Dim ond un partner geni enwebedig sy’n cael ei ganiatáu yn y theatr yn ystod yr enedigaeth.
Cyfnod ymgartrefu
Pan fyddwch yn cael eich trosglwyddo o'r ganolfan eni neu'r ward esgor i'r ward ôl-enedigol, gall un partner geni enwebedig aros gyda chi am hyd at 30 munud i'ch helpu i ymgartrefu. Gall hyn ddigwydd ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos, tra'n parhau i barchu anghenion gofal cleifion eraill ar y ward.
Argymhellion ar gyfer ymweld
Rydyn ni’n deall bod hwn yn amser hynod o arbennig i chi a’ch anwyliaid, ac rydyn ni yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd. Er mwyn sicrhau eich bod chi a’ch teulu yn cael profiad cadarnhaol, ac i gynnal amgylchedd diogel a pharchus i bawb, rydym yn gofyn yn garedig i chi gymryd eiliad i ddarllen yr argymhellion canlynol:
- Diogelwch a Mynediad: Er eich diogelwch chi, mae'r drysau i'n wardiau mamolaeth a'n canolfannau geni wedi'u cloi. Er ein bod yn deall y gall fod yn rhwystredig, byddwch yn amyneddgar wrth wasgu'r seinydd, a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
- Parch ac Urddas: Rydym wedi ymrwymo i'ch trin â charedigrwydd a pharch a rydym yn gofyn am yr un ystyriaeth i'n staff. Mae gennym bolisi dim goddefgarwch ar gyfer unrhyw fath o ymddygiad sarhaus neu ymosodol, a rydym yn gofyn i unrhyw un sy’n defnyddio iaith amhriodol adael.
- Atal Heintiau: Er mwyn helpu i sicrhau amgylchedd diogel, rydym yn gofyn yn garedig i ymwelwyr ddefnyddio'r cadeiriau sy’n cael eu darparu. Pan fydd ymwelwyr yn eistedd neu'n gorwedd ar y gwely, gall gynyddu'r risg o haint i'ch anwyliaid.
- Ffotograffiaeth: Rydym yn deall pa mor bwysig yw'r eiliadau hyn, ond am resymau preifatrwydd a diogelwch, dim ond lluniau ohonoch chi'ch hun a'ch babi mewn ardaloedd mamolaeth a theatrau y dylech chi eu cymryd.
- Oriau Ymweld: Er mwyn cynnal amgylchedd heddychlon a llonydd, dim ond yn ystod oriau ymweld dynodedig y gallwn hwyluso mynediad i'r uned famolaeth, ac eithrio yn ystod y cyfnod esgor pan all eich partner(iaid) geni enwebedig ymuno â chi ar unrhyw adeg, dydd neu nos.
Rydym wir yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad, ac edrychwn ymlaen at eich cefnogi yn ystod yr amser arbennig hwn.