Rebecca Morris - NNEB - Ysbyty’r Tywysog Siarl
Mae Becca Morris yn nyrs feithrin ragorol ac yn glod i'r ward ôl-enedigol yn Ysbyty’r Tywysog Siarl. Roeddwn i'n ddigon ffodus i'w chael hi'n gweithio ar shifft ar ôl geni fy nwy ferch, a dwi ddim yn siŵr allwn i fod wedi ymdopi yn ystod y dyddiau cyntaf hynny hebddi. Rhoddodd gymorth ac arweiniad heb ei ail i mi pan ddaeth hi’n adeg gofalu am y merched (yn dilyn toriad Cesaraidd), o safbwynt ymarferol yn ogystal a’r gefnogaeth emosiynol. Ro'n i'n dyheu am fwydo ar y fron ond roedd fy merched bach yn cael trafferth cydio’n iawn. Dangosodd Becca ffyrdd i mi geisio cael y merched i gydio’n llwyddiannus, a phan oedd hynny'n aflwyddiannus, helpodd fi i dynnu llaeth o’r fron a bwydo fy nwy ferch. Sicrhaodd Becca fy mod yn cael pob cefnogaeth bosibl cyn mynd adref, a fy mod yn gwybod pwy i gysylltu â nhw pe bai gen i unrhyw broblemau ar ôl cyrraedd adref. Rydw i wedi siarad gyda phobl eraill ac mae nhw i gyd wedi cael profiad tebyg i fi gyda Becca felly mae hi wir yn mynd y filltir ychwanegol i gefnogi mamau yn y cyfnod ôl-enedigol heriol, ac mae hi'n gaffaeliad i'r tîm.