Neidio i'r prif gynnwy

Maeth a Dieteteg

 

Fel Deietegwyr, rydym yn weithwyr iechyd proffesiynol cymwys a rheoledig sy'n asesu, yn gwneud diagnosis ac yn trin problemau sy'n ymwneud â diet a maeth ar lefel unigol ac iechyd y cyhoedd yn ehangach er mwyn helpu i wella iechyd gwael, atal iechyd gwael a hybu iechyd da.

Rydym yn defnyddio'r ymchwil wyddonol ddiweddaraf sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar fwyd, iechyd a chlefydau sydd wedyn yn cael ei throsi'n ganllawiau ymarferol i helpu i hwyluso newidiadau priodol i ffordd o fyw a dewisiadau bwyd.

Ar gyfer pwy mae hwn?

Rydym yn gweithio gyda phobl iach a sâl mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys: llawfeddygaeth, gofal critigol, gastroenteroleg, gofal yr henoed, iechyd meddwl, anableddau dysgu, iechyd plant, lleoliadau cymunedol, ac iechyd y cyhoedd.

A all Unrhyw Un Ddefnyddio'r Gwasanaeth Hwn?

Mae opsiynau atgyfeirio amrywiol ar gyfer y gwasanaethau a ddarparwn. Fodd bynnag, dim ond atgyfeiriadau gan gydweithwyr gofal iechyd proffesiynol yr ydym yn eu derbyn.


Oriau Agor
8:30yb – 4:30yp


Beth i'w Ddisgwyl

Rydym yn gweithio fel aelodau annatod o dimau amlddisgyblaethol i asesu, diagnosio a thrin cyflyrau clinigol cymhleth gyda chyngor dietegol a maethol fel diabetes, gostwng lipidau, rheoli pwysau, diffyg maeth, diffyg amsugno, alergedd ac anoddefiad bwyd, methiant yr arennau ac anhwylderau'r coluddyn.

Rydym yn gweithio ar draws nifer o amgylcheddau gofal iechyd mewn lleoliadau acíwt a chymunedol yn y lleoliadau canlynol:

  • Ysbyty Brenhinol Morgannwg (Cleifion Mewnol ac Allanol)
  • Ysbyty'r Tywysog Siarl (Cleifion mewnol yn unig)
  • Ysbyty Cwm Cynon (Cleifion Mewnol ac Allanol)
  • Ysbyty Cwm Rhondda (Cleifion Mewnol ac Allanol)
  • Ysbyty Dewi Sant (Cleifion Allanol yn unig)
  • Parc Iechyd Prifysgol Keir Hardie (cleifion allanol yn unig)
  • Y Bwthyn (Gofal Lliniarol)
  • Ysbyty George Thomas (Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn)

Yn dibynnu ar y gwasanaeth y gofynnir amdano, efallai y cewch eich trin fel claf mewnol, mewn sesiwn addysg grŵp cleifion allanol, mewn apwyntiad clinigol 1:1 neu dros y ffôn.
 

Dolenni Defnyddiol

Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)

Hafan Cymdeithas Ddeieteg Prydain | Cymdeithas Ddeieteg Prydain (BDA)

Ysbyty Cwm Cynon (Aberpennar)

01443 715026

Ysbyty'r Tywysog Siarl (Merthyr Tudful)

01685 728843

Ysbyty Brenhinol Morgannwg (Llantrisant)

01443 443660

Ysbyty Cwm Rhondda (Llwynypia)

01443 443443 Est 72622

Dilynwch ni: