Mae Nyrsys Arbenigol Epilepsi yn dîm o nyrsys sy'n gofalu am blant a phobl ifanc sy'n cael ymchwiliadau neu sydd â diagnosis o Epilepsi. Rydym yn gweithio'n agos o fewn tîm amlddisgyblaethol i ddarparu gofal arbenigol i blant a phobl ifanc ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Os ydych chi'n poeni bod eich plentyn yn cael ffitiau, gofynnwch am ofal meddygol brys a chyngor gan eich meddyg teulu neu'ch Adran Argyfwng.