Neidio i'r prif gynnwy

Osteoarthritis y Pen-glin

Rydym yn darparu asesiad, yn rhoi diagnosis ac yn cynnig triniaeth i helpu i leddfu ar boen a gwella gallu cleifion i symud a gwneud tasgau beunyddiol.
Bydd eich ffisiotherapydd yn gofyn cwestiynau manwl i chi am eich pen-glin, a sut mae'n effeithio arnoch chi o ddydd i ddydd. Bydd yn eich archwilio'n ofalus i helpu i wneud diagnosis o'r broblem, a gallai hyn gynnwys profi cyhyrau a meinweoedd meddal, neu deimlo sut mae'ch cymalau yn symud. Bydd yn siarad â chi am beth mae'n ei ddarganfod a beth all eich dewisiadau triniaeth fod. Gall y rhain gynnwys: ymarferion, newidiadau i'ch ffordd o fyw, cymhorthion cerdded a thriniaeth i leddfu ar boen.

Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth?

Osteoarthritis yw'r math mwyaf cyffredin o glefyd ar y cymalau, ac o'r holl gymalau, y pen-glin yw'r un sy'n cael ei effeithio amlaf . Nod triniaeth ffisiotherapi yw gwella symptomau'r afiechyd (h.y. poen yn y pen-glin, chwyddo, anhyblygrwydd, gwendid yn y cyhyrau), a dylech chi ddechrau sylwi bod gwelliant wedi bod o fewn un neu ychydig o sesiynau ffisiotherapi.

Oriau Agor
8:00 am - 4:00 pm

Beth i'w Ddisgwyl

I ddechrau, cewch eich asesu gan aelod o'r tîm ffisiotherapi a fydd yn cynnal asesiad manwl o'r cymal / cyflwr dan sylw.

Gall yr asesiad gynnwys edrych ar sut rydych chi'n symud a chryfder ynghyd â chynnal rhai profion penodol i ddarganfod beth yw'r broblem. Fel rhan o'r asesiad, mae'n bosibl y bydd angen i chi ddadwisgo'n rhannol i helpu'ch ffisiotherapydd i gwblhau'r archwiliad yn llawn. Efallai felly yr hoffech ddod â phâr o drowsus byrion/siorts os yw'ch problem yn eich coesau neu'ch cefn.

Yn dilyn eich asesiad, byddwch yn penderfynu ar yr opsiwn triniaeth mwyaf priodol ar gyfer eich cyflwr. Byddwch yn cael cynnig apwyntiad dilynol (os bydd angen hynny) ynghyd â rhaglen driniaeth i barhau â hi gartref.

Cysylltwch â Ni

Canolfan Ffisiotherapi Ysbyty Cwm Rhondda
01443 715012

Dolenni Defnyddiol

GIG Uniongyrchol - Osteoarthritis
GIG Uniongyrchol - Poen Pen-glin

 

Dilynwch ni: