Galluogi Hunanreolaeth ac Ymdopi â Phoen Arthritig gan ddefnyddio Ymarfer Corff
Mae ESCAPE Pain yn rhaglen adsefydlu ar gyfer pobl â phoen cronig yn y cymalau, sy'n integreiddio hunanreolaeth addysgol a strategaethau ymdopi â threfn ymarfer corff unigol ar gyfer pob cyfranogwr.
Sut mae gweithdai ESCAPE Pain yn helpu pobl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM)?
Maen nhw'n helpu pobl i ddeall eu cyflwr, yn dysgu pethau a all helpu, ac yn mynd â nhw trwy raglen ymarfer corff raddol fel eu bod nhw'n dysgu sut i ymdopi â'u cyflwr yn well.
Ni fydd y rhaglen yn gwella'ch poen yn llwyr. Ei nod yw lleihau eich poen ac yn gwella eich gweithrediad corfforol yn ogystal â'ch hyder yn eich gallu i reoli eich cyflwr.
Mae Rhaglen ESCAPE Pain BIP Cwm Taf Morgannwg yn cynnig dull cyfunol ar gyfer pobl sy'n byw gyda Phoen Cefn, Clun a Phen-glin.
Mae'n cynnwys:
ESCAPE Pain ar gyfer cluniau/pengliniau – wedi'i gynllunio'n benodol i fod o fudd i bobl ag arthritis clun a phen-glin gan roi'r sgiliau a'r technegau i chi reoli eich poen eich hunain.
ESCAPE Pain i'r Cefn - wedi'i gynllunio'n benodol i fod o fudd i bobl â phoen cefn parhaus.
Beth am edrych ar y fideos byr isod gan bobl sydd wedi cymryd rhan yn y Rhaglen ESCAPE Pain:
Ymarfer Corff gydag Arthritis
Cliciwch ar y ddolen isod i ddysgu mwy am arthritis o wefan Arthritis VERSUS: https://www.versusarthritis.org/
Beth mae Rhaglen ESCAPE Pain yn ei olygu?
Ble alla i fynychu ESCAPE Pain?
Mae BIP Cwm Taf Morgannwg yn cynnig Rhaglen ESCAPE Pain yn y lleoliadau a’r amseroedd canlynol:
K2 GYM
Y Brif Rodfa, Ystâd Ddiwydiannol Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 2AG
Dydd Llun 2.30pm - 3.30pm
Dydd Gwener 2.30pm - 3.30pm
Adran Ffisiotherapi Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ynysmaerdy, CF72 8XR
Dydd Llun 2.30pm - 3.30pm
Dydd Mercher 2.30pm - 3.30pm
Adran Ffisiotherapi Ysbyty Cwm Cynon
Heol Newydd, Aberpennar, Rhondda Cynon Taf, CF45 4BZ
Dydd Mawrth 11.00am - 12.00pm neu 1.00pm - 2.00pm
Dydd Gwener 11.15am - 12.15pm neu 1.00pm - 2.00pm
Sut ydw i'n atgyfeirio fy hun?
Os ydych yn byw o fewn BIP Cwm Taf Morgannwg a bod gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn ein rhaglenni ESACPE, e-bostiwch eich enw, dyddiad geni a rhif ffôn prif gyswllt i: ctm.escape.pain@wales.nhs.uk
Byddwn yn eich ffonio o fewn chwe wythnos i drafod y rhaglen a gwirio eich bod yn gallu cymryd rhan.
Dolenni Defnyddiol