Ymarferydd Cynorthwyol Deieteg Banc
Ymarferydd Cynorthwyol Deieteg Banc
Fy enw i yw Lowri ac rwy'n Ymarferydd Cynorthwyol Deieteg Banc sy'n gweithio ar hyn o bryd o fewn tîm PIPYN. Rwy'n gweithio ar draws y timau o fewn deieteg Iechyd Cyhoeddus i helpu teuluoedd a phlant i wneud dewisiadau iachach yn eu bywydau bob dydd. Rwy'n gweithio mewn ysgolion a lleoliadau cymunedol gan fy mod yn mwynhau cynnal sesiynau coginio ymarferol a gweithgareddau hwyl i helpu gwella dealltwriaeth a gwybodaeth am fwyta'n iach a dewisiadau ffordd o fyw. Yn fy amser hamdden dw i'n hoffi cadw'n egnïol drwy chwarae pêl-rwyd.