Neidio i'r prif gynnwy
Sarah Brill

Ymarferydd Cynorthwyol Deieteg

Amdanaf i

Ymarferydd Cynorthwyol Deieteg

Fi yw Sarah Brill, Ymarferydd Cynorthwyol Deieteg sydd â brwdfrydedd gwirioneddol dros gefnogi teuluoedd. Dwi wrth fy modd yn mynd i sesiynau PIPYN, cwrdd â rhieni wyneb yn wyneb, a rhoi cyngor sy'n gwneud gwahaniaeth yn eu bywydau bob dydd. Mae cysylltu â phobl yn rhan o fy ngwaith sy'n fy ysgogi fwyaf.  

Rwy'n fam falch hefyd i fachgen bach sydd newydd ddechrau ysgol, sydd wedi bod yn gam cyffrous iawn i ni. Mae teulu a ffrindiau yn rhan fawr o fy mywyd, ac rwy'n gwerthfawrogi'r amser rydyn ni’n ei dreulio gyda'n gilydd.  

Pan nad ydw i’n gweithio neu gyda fy nheulu, fel arfer bydda i’n chwarae mewn band — cerddoriaeth yw fy hoff ffordd o ymlacio a mynegi fy hun. 

Dilynwch ni: